A Run for Your Money
Ffilm gomedi gan Ealing Studios a ryddhawyd ym 1949 yw A Run for Your Money.
Teitl amgen | Lark |
---|---|
Cyfarwyddwr | Charles Frend |
Cynhyrchydd | Michael Balcon |
Ysgrifennwr | Richard Hughes, Leslie Norman a Charles Frend (deialog ychwanegol gan Diana Morgan) |
Cerddoriaeth | Ernest Irving |
Sinematograffeg | Douglas Slocombe |
Golygydd | Michael Truman |
Sain | Arthur Bradburn, Stephen Dalby, Eric Stockl |
Dylunio | William Kellner |
Cwmni cynhyrchu | Ealing Studios |
Dyddiad rhyddhau | 23 Tachwedd 1949 |
Amser rhedeg | 85 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Crynodeb
golyguComedi sy’n dilyn hynt a helynt dau frawd o bentref Cymreig ffuglennol o’r enw Hafoduwchbenceubwllymarchogcoch. Enilla Dai a Twm Jones, sy’n lowyr, drip i Lundain i gasglu £200 a thocynnau i’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham. Dilynir helbulon y ddau yn y ddinas lle mae’r ddau yn cael eu gwahanu, gyda Dai yn cyfarfod merch leol dwyllodrus o’r enw Jo a Whimple y newyddiadurwr sydd wedi’i anfon i adrodd ar drip y brodyr. Daw Twm, ar y llaw arall, ar draws Huw, hen gyfaill o Gymru sy’n delynor. Ar ôl sawl tro trwstan yn Llundain, dychwela’r ddau frawd i Gymru yng nghwmni Huw yn falch o gael cefnu ar y ddinas fawr ddrwg.
Cast a chriw
golyguPrif gast
golygu- Donald Houston (David ‘Dai Number 9’ Jones)
- Meredith Edwards (Thomas ‘Twm’ Jones)
- Moira Lister (Jo)
- Alec Guinness (Whimple)
- Hugh Griffith (Huw Price)
Cast cefnogol
golygu- Clive Morton (Golygydd)
- Julie Milton (Bronwen)
- Peter Edwards (Davies Manager)
- Joyce Grenfell (Mrs Pargiter)
- Leslie Perrins (Barney)
- Dorothy Bramhall (Jane Benson)
- Andrew Leigh (Gwystlwr)
- Edward Rigby (Beefeater)
- Desmond Walter-Ellis (Cyhoeddwr yr Orsaf)
- Mackenzie Ward (Stebbins, Ffotograffydd)
- Meadows White (Guv'nor)
- Gabrielle Brune (Cantores)
- Ronnie Harries (Dan)
- Diana Hope (Cwsmer)
- Dudley Jones (Bleddyn)
- David Davies (Dieithryn Cydnerth)
- Tom Jones (Hen Löwr)
- Richard Littledale (Rheolwr Sinema)
Cydnabyddiaethau eraill
golygu- Cynhyrchydd cysylltiol – Leslie Norman
- Dylunio gwisgoedd – Anthony Mendleson
- Adran goluro – Barbara Barnard (gwallt); Harry Frampton (colur); Ernest Taylor (colur)
- Rheolwr cynhyrchu – Ralph D. Hogg
- Arolygwr cynhyrchu – Hal Mason
- Cyfarwyddwr cynorthwyol [1] – Norman Priggen
- Cyfarwyddwr cynorthwyol [2] – Simon Kershaw
- Cyfarwyddwr cynorthwyol [3] – Christopher Barry
- Gweithiwr camera – Jeff Seaholme
- Cysonydd – Phyllis Crocker
- Rheolwr stiwdio/ Arolygwr technegol – Baynham Honri
Manylion Technegol
golyguTystysgrif Ffilm: U
Fformat Saethu: 35mm
Lliw: Du a Gwyn
Lleoliadau Saethu: Stiwdio Ealing; Llundain; Twickenham
Gwobrau: 1950 – BAFTA – enwebwyd yng nghategori y Ffilm Brydeinig Orau
Manylion Atodol
golyguLlyfrau
golygu- Charles Barr, Ealing Studios (2il argraffiad, Studio Vista, 1995)
- David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Jim Leach, British Film (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2004)
- George Perry, Forever Ealing: A Celebration of the Great British Film Studio (Pavilion, 1981)
- Jeffrey Richards, Films and British National Identity (Manceinion, 1997)
- Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)
Gwefannau
golygu- Ysgrif Mark Duguid ar ‘Ealing Comedy’ ar Screenonline
- Ysgrif Lou Alexander ar ‘Ealing Studios’ ar Screenonline
Adolygiadau
golygu- Richard Mallett, ‘A Run For Your Money’, Punch, 7 Rhagfyr 1949, t. 632.
- H. Raynor, ‘Nothing to Laugh at …’, Sight and Sound, 19:2, Ebrill 1950, tt. 68–74.
Erthyglau
golygu- John Ellis, ‘Made in Ealing’, Screen, 16:1, Gwanwyn 1975
- Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)