Hugh Griffith
Actor o Gymro rhugl ei Gymraeg oedd Hugh Emrys Griffith (Cymraeg: Huw Emrys Gruffudd; 30 Mai, 1912 – 14 Mai, 1980). Cafodd ei eni ym Marianglas, Sir Fôn, yn fab i Mary a William Griffith a chafodd ei addysg yn Ysgol Sirol Llangefni, ond fe fethodd arholiadau i fynd i'r brifysgol. Cafodd ei annog i ddilyn gyrfa mewn bancio ac fe symudodd i Lundain i fod yn agosach at gyfleon actio. Fel roedd yn ennill mynediad i'r Academi Celfyddydau Drama Brenhinol (RADA) fe gychwynodd yr Ail Rhyfel Byd, a gwasanaethodd ym Myddin Lloegr am chwe mlynedd gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn India, ac yn ymgyrch Burma. Ailgydiodd yn ei yrfa actio yn 1946.
Hugh Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1912 Marian-glas |
Bu farw | 14 Mai 1980 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau |
Derbyniwyd ef i'r orsedd gan yr Archdderwydd William Morris yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 1980, a'r unflwyddyn, bu farw o drawiad ar y galon yn Llundain.
Ffilmiau
golygu- Neutral Port (1940)
- The Three Weird Sisters (1948)
- The Last Days of Dolwyn (1949)
- Laughter in Paradise (1951)
- The Titfield Thunderbolt (1953)
- The Sleeping Tiger (1954)
- Lucky Jim (1957)
- Ben-Hur (1959)
- Exodus (1960)
- Mutiny on the Bounty (1962)
- Tom Jones (1963)
- Moll Flanders (1965)
- Oliver! (1968)
- Sailor from Gibraltar
- Start the Revolution Without Me (1970)
- Cry of the Banshee
- Wuthering Heights
- Loving Cousins
- The Last Remake of Beau Geste (1977)
- Grand Slam (1978)
- The Hound of the Baskervilles
- The Passover Plot
Teledu
golygu- Quatermass II (1955)
- Clochemerle (1972)
- Grand Slam (1978)