A Way of Life
Ffilm a ryddhawyd yn 2004 ydy A Way of Life.
Cyfarwyddwr | Amma Asante |
---|---|
Cynhyrchydd | Charlie Hanson, Patrick Cassavetti, Peter Edwards |
Ysgrifennwr | Amma Asante |
Cerddoriaeth | David Gray |
Sinematograffeg | Ian Wilson |
Castio | Gary Howe |
Sain | Ian Richardson |
Dylunio | Hayden Pearce |
Cwmni cynhyrchu | AWOL Films |
Dyddiad rhyddhau | 2004 |
Amser rhedeg | 91 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Crynodeb
golyguDyma ffilm drasig sy’n rhoi mewnwelediad i erchyllder hiliaeth, wrth ddarlunio bywyd pum person ifanc sy’n ceisio dal ymlaen at eu breuddwydion. Canola’r ffilm ar Leigh-Anne Williams, mam sengl ifanc, a’u chyfoedion Robbie, sy'n dyheu i ffoi o’r gymuned diobaith, Gavin, sy'n chwilio am gariad, a Stephen, sy’n dyheu am hunaniaeth Gymreig ystyrlon. Maent yn bodoli ar gyrion cymdeithas, nes un diwrnod tyngedfennol wrth i ddiflastod, paranoia, rhwystredigaeth a dicter droi’n gymysgedd hunllefus. Pan mae dyfodol Leigh-Anne a’i phlentyn dan fygythiad, mae'n troi ei llid ar ei chymydog Mwslemaidd, Hassan. O ganlyniad, ceir llofruddiaeth erchyll ac mewn un eiliad, mae’r grwp ifanc wedi selio eu tynged.
Manylion technegol
golyguTystysgrif ffilm: Untitled Certificate
Fformat saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Lleoliadau Saethu: Abertawe, Caerdydd
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr |
---|---|---|
The Times BFI London Film Festival | 2004 | Alfred Dunhill UK Film Talent Award (i Amma Asante) |
San Sebastián Film Festival | 2004 | Special Commendation, Signis Award |
South Bank Show Awards | 2005 | Times Breakthrough Artist of the Year (i Amma Asante) |
Orange British Academy Film Awards | 2005 | Bafta Carl Foreman Award (i Amma Asante) |
Miami International Film Festival | 2005 | Fibresci Prize, Best Film |
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau
golygu- Blandford, Steve, Film, Drama and the Break-Up of Britain (Bristol: Intellect, 2007).
Adolygiadau
golyguErthyglau
golygu- Blandford, Steve, ‘A Way of Life, British Cinema, and New British Identities’, Journal of British Cinema and Television, cyfrol 5, tt. 99–112.
- Blandford, Steve, ‘Being Half of Everything’, New Welsh Review, rhif 65, 2004. (cyfweliad gydag Amma Asante).
- Erthygl yn The Guardian gan Bonnie Greer
- Erthygl yn The Guardian gan Skye Sherwin
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol A Way of Life Archifwyd 2014-11-02 yn y Peiriant Wayback
- A Way of Life ar Screenonline