Archif ddigidol o'r we fyd-eang yw Peiriant Wayback, a sefydlwyd gan Archif y Rhyngrwyd, sef llyfrgell nid-er-elw yn San Francisco yn yr Unol Daleithiau.[1] Mae'r wefan yn caniatáu i'r defnyddiwr fynd “yn ôl mewn amser” a gweld sut roedd gwefannau'n edrych yn y gorffennol.

Peiriant Wayback
Enghraifft o'r canlynolweb archive Edit this on Wikidata
CrëwrBrewster Kahle, Bruce Gilliat Edit this on Wikidata
Rhan oInternet Archive Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Hydref 2001 Edit this on Wikidata
PerchennogInternet Archive Edit this on Wikidata
GweithredwrInternet Archive Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://web.archive.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Aeth sylfaenwyr Peiriant Wayback, sef Brewster Kahle a Bruce Gilliat, ati i'w ddatblygu gyda'r nod o ddarparu "mynediad i bawb at yr holl wybodaeth" drwy gadw copïau wedi'u harchifo o dudalennau gwe sydd wedi dod i ben.[2] Ers ei lansio ym 1996, mae dros 544 biliwn o dudalennau wedi'u hychwanegu at yr archif. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn ddadleuol wrth i rai awgrymu bod creu tudalennau wedi'u harchifo heb ganiatâd y perchennog yn gyfystyr â thorri hawlfraint mewn rhai awdurdodaethau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wayback Machine General Information". archive.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-05. Cyrchwyd 2 Mar 2021.
  2. Notess, Greg R. (March–April 2002). "The Wayback Machine: The Web's Archive". Online 26: 59–61.