Aarhus
Dinas ar arfordir dwyreiniol gorynys Jylland, Denmarc yw Aarhus (1948-2010 Århus). Hi yw ail ddinas Denmarc o ran maint, gyda phoblogaeth o 237,551 yn 2008, ac mae'r porthladd yn un o'r mwyaf yng Ngogledd Ewrop.
Math | dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 290,598 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Aarhus |
Gwlad | Denmarc |
Arwynebedd | 91 km² |
Uwch y môr | 6 ±1 metr, 105 metr |
Gerllaw | Kattegat |
Cyfesurynnau | 56.1564°N 10.2097°E |
Cod post | 8000, 8100, 8200, 8210, 8220, 8229, 8230, 8240, 8245, 8250, 8260, 8270 |
Hyd 2007, hi oedd prifddinas talaith Århus. Roedd esgobaeth Aarhus mewn bodolaeth erbyn 951, ac mae'r Eglwys Gadeiriol, y fwyaf yn Nenmarc, yn dyddio o'r 13g. Ymhlith yr atyniadau i ymwelwyr mae Den Gamle By ("Yr Hen Ddinas"), sy'n amgueddfa awyr-agored. Mae Neuadd y Ddinas (1942) yn un o weithiau enwocaf y pensaer Arne Jacobsen.