Denmarc

gwladwriaeth sofren yn Ewrop

Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg: "Cymorth – Sain" Danmark ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.

Denmarc
Kongeriget Danmark
Mathgwladwriaeth, pŵer trefedigaethol, gwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasCopenhagen Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,827,463 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 g Edit this on Wikidata
AnthemMae na Wlad Hyfryd, Kong Christian stod ved højen mast Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMette Frederiksen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Daneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Y Gwledydd Nordig, Brenhiniaeth Denmarc, Llychlyn Edit this on Wikidata
GwladBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Arwynebedd42,925.46 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Gogledd, Y Môr Baltig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSweden, Norwy, yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56°N 10°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Denmarc Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholFolketinget Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Denmarc Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFrederik X, brenin Denmarc Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Denmarc Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMette Frederiksen Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$398,303 million, $395,404 million Edit this on Wikidata
ArianKrone Danaidd Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.67 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.929 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Cyfarfod i ffurfio'r cyfansoddiad, 1848

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10g, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11g, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn annibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Daearyddiaeth golygu

Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.

Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.

Dinasoedd golygu

Copenhagen 502,204 (1,086,762 yn yr ardal ddinesig)
Århus 228,547
Odense 186,595
Aalborg 160,000
Esbjerg 82,312
Randers 55,897
Kolding 54,526
Vejle 49,782
Horsens 49,457
Roskilde 43,753
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Denmarc
yn Wiciadur.