Aasmund Olavsson Vinje
Bardd, newyddiadurwr ac ysgrifwr Norwyaidd oedd Aasmund Olavsson Vinje (6 Ebrill 1818 – 30 Gorffennaf 1870) sydd yn nodedig am ei delynegion natur, ei lyfrau taith, ac fel un o ladmeryddion Landsmaal, ffurf lenyddol ar sail tafodieithoedd gorllewin Norwy a elwir bellach yn Nynorsk.
Aasmund Olavsson Vinje | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1818 Vinje |
Bu farw | 30 Gorffennaf 1870 Gran Municipality |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, llenor, cyfreithegwr, gwleidydd |
Arddull | telyneg |
Ganed yn Vinje, Telemark, yn fab i ffermwr-denant tlawd. Astudiodd y gyfraith a gweithiodd yn swyddi athro, newyddiadurwr, a chlerc y llywodraeth. Dechreuodd ysgrifennu i bapur newydd yn Christiania yn 1851, a sefydlodd bapur newydd ar liwt ei hun, Dølen, yn 1858, a fu'n gyfrwng i sefydlu Landsmaal.[1]
Dechreuodd Vinje farddoni yn 40 oed, yn bennaf telynegion ar bwnc natur. Ymhlith ei gyfrolau o gerddi mae Diktsamling (1864) a chylch Storegut (1866). Ei gampwaith ydy'r llyfr taith Ferdaminni fraa sumaren 1860 (1861) sydd yn gasgliad o ysgrifau a cherddi o'i daith ar droed o Christiania i Trondheim i roi hanes coroni'r Brenin Karl yn haf 1860. Ysgrifennodd hefyd, yn Saesneg, lyfr taith am Brydain Fawr o'r enw A Norseman’s View of Britain and the British (1863).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Aasmund Olafson Vinje. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2019.