Newyddiaduraeth

(Ailgyfeiriad o Newyddiadurwr)

Y ddisgyblaeth o gasglu, dadansoddi, gwireddu, a chyflwyno newyddion ynglŷn â materion cyfoes, gogwydd ffasiwn, a phobl yw newyddiaduraeth. Gelwir un sydd yn gweithio yn newyddiaduraeth yn newyddiadurwr, boed broffesiynol neu amatur.[1] [2]

Ffoto-newyddiadurwyr yn holi ac yn gofnodi'r Arlywydd Barack Obama: ar lun, ysgrifen, fideo a sain.

Gall y cyfrwng fod yn un o nifer: papurau newydd a cylchgronau, radio a theledu oedd y fformat draddodiadol tan yr 21ain ganrif pan ddaeth llwyfanau digidol fel gwefanau cyfrifiadaurol ac apiau ar gyfer ffonau a thabledi.

Yn y gymdeithas sydd ohoni, ystyrir y 'newyddion' yn brif gyfrwng neu hyrwyddwr gwybodaeth gyfoes, newydd ac am y newidiadau mewn materion cyhoeddus o dydd i ddydd. Ond nid dyma yw hyd a lled newyddiaduraerth, a gall anturio i faesydd fel ymchwil i fywydau pobl, neu gamweinyddu, llenyddiaeth, ffilmiau a sinema. Mewn sawl gwlad caiff ei reoli i wahanol raddau gan Lywodraeth y wlad, fel erfyn gwleidyddol.[3]

Newyddiadurwyr byd-eang golygu

Ymhlith newyddiadurwyr cynharaf yr Unol Daleithiau roedd: Horace Greeley (1811–1872) – sefydlydd y New York Tribune, Thomas Nast (1840–1902) – tad cartwnau dychanol ac Anne Newport Royall (1769–1854) y ferch gyntaf i holi Arlywydd yr UDA a Golygydd Paul Pry (1831–36) a The Huntress (1836–54) yn Washington, D.C. Yn Hong Cong bu Jimmy Lai yn Golygu'r Apple Daily a charcharwyd Ching Cheong, golygydd The Straits Times gan Weriniaeth Tsieina.

Newyddiadurwyr o Gymru golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Harcup 2009, t. 3.
  2. "What is journalism?". americanpressinstitute.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-07. Cyrchwyd Gorffennaf 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. "10 Most Censored Countries," Committee to Protect Journalists, 2 Mai 2012, page retrieved Mai 2013.
Chwiliwch am newyddiaduraeth
yn Wiciadur.