Aasmund Olavsson Vinje

Bardd, newyddiadurwr ac ysgrifwr Norwyaidd oedd Aasmund Olavsson Vinje (6 Ebrill 181830 Gorffennaf 1870) sydd yn nodedig am ei delynegion natur, ei lyfrau taith, ac fel un o ladmeryddion Landsmaal, ffurf lenyddol ar sail tafodieithoedd gorllewin Norwy a elwir bellach yn Nynorsk.

Aasmund Olavsson Vinje
Ganwyd6 Ebrill 1818 Edit this on Wikidata
Vinje Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 1870 Edit this on Wikidata
Gran Municipality Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, bardd, ysgrifennwr, cyfreithegwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Arddulltelyneg Edit this on Wikidata

Ganed yn Vinje, Telemark, yn fab i ffermwr-denant tlawd. Astudiodd y gyfraith a gweithiodd yn swyddi athro, newyddiadurwr, a chlerc y llywodraeth. Dechreuodd ysgrifennu i bapur newydd yn Christiania yn 1851, a sefydlodd bapur newydd ar liwt ei hun, Dølen, yn 1858, a fu'n gyfrwng i sefydlu Landsmaal.[1]

Dechreuodd Vinje farddoni yn 40 oed, yn bennaf telynegion ar bwnc natur. Ymhlith ei gyfrolau o gerddi mae Diktsamling (1864) a chylch Storegut (1866). Ei gampwaith ydy'r llyfr taith Ferdaminni fraa sumaren 1860 (1861) sydd yn gasgliad o ysgrifau a cherddi o'i daith ar droed o Christiania i Trondheim i roi hanes coroni'r Brenin Karl yn haf 1860. Ysgrifennodd hefyd, yn Saesneg, lyfr taith am Brydain Fawr o'r enw A Norseman’s View of Britain and the British (1863).[1]

Bu farw yn 52 oed yn Gran, Hadeland.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Aasmund Olafson Vinje. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2019.