Abbas ibn al-Ahnaf
Bardd Arabeg canoloesol oedd Abba ibn al-Ahnaf (750-809). Roedd Al-Ahnaf yn un o'r cynharaf o'r beirdd Abbasid. Roedd yn frodor o Faghdad a gysylltir â'r Califf Harun al-Rashid. Daeth yn ewnog am ei gerddi serch synhwyrus ond eironig, nifer ohonyn' nhw ar ffurf y qit'a, ffurf delesgopig, gryno iawn, sy'n debyg i'r englyn Cymraeg a'r haiku Siapaneg.[1]
Abbas ibn al-Ahnaf | |
---|---|
Ganwyd | c. 750 Basra |
Bu farw | c. 808 Baghdad |
Dinasyddiaeth | Abassiaid |
Galwedigaeth | bardd |
Arddull | ghazal |
Dyma enghraifft o un o'i gerddi byr mewn cyfieithiad:
- Pan gerdda hi â'i llawforwynion ifainc
- Lleuad yn siglo rhwng llusernau ydyw.[2]