Baghdad

Prifddinas Irac

Prifddinas a dinas fwyaf Irac yw Baghdad (ynganiad: "Cymorth – Sain" Baghdad ). Mae hi'n sefyll ar lannau Afon Tigris yng nghanolbarth y wlad. Mae poblogaeth Baghdad oddeutu 6,960,000 (2016)[1] ac mae ganddi arwynebedd o 673 cilometr sgwâr. Gorwedd y ddinas ger adfeilion y ddinas Akkadiaidd a hynafol Babilon a phrifddinas hynafol Iran yn Ctesiphon, Baghdad yn yr 8g a daeth yn brifddinas yr Abassiaid. O fewn dim, esblygodd Baghdad yn ganolfan ddiwylliannol, fasnachol a deallusol sylweddol yn y Byd Mwslemaidd. Roedd hyn, yn ogystal â bod yn gartref i sawl sefydliad academaidd allweddol, gan gynnwys Bayt al-Ḥikmah (y "Tŷ Doethineb"), yn ogystal â chynnal amgylchedd aml-ethnig ac aml-greiddiol, wedi ennill enw da ledled y byd fel y "Ganolfan Ddysg".

Baghdad
فندق بغداد روتانا.jpg
Mathprifddinas, dinas hynafol, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Bagdad.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,960,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 762 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethManhal Al habbobi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirBaghdad Governorate, Kingdom of Iraq, Mandatory Iraq, Baghdad Vilayet, Baghdad Eyalet Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd204.2 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr34 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tigris Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.35°N 44.42°E Edit this on Wikidata
Cod post10001–10090 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethManhal Al habbobi Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAl-Mansur Edit this on Wikidata
Gwesty Rasheed, Baghdad

Baghdad oedd y ddinas fwyaf yn y byd am y rhan fwyaf o oes yr Abassiaid, yn ystod yr Oes Aur Islamaidd, a ddaeth i'w anterth pan oedd yno boblogaeth o fwy na miliwn.[2] Dinistriwyd y ddinas i raddau helaeth yn nwylo Ymerodraeth y Mongol ym 1258, gan arwain at ddirywiad a fyddai’n aros trwy ganrifoedd lawer oherwydd plaau mynych a llawer o ymerodraethau olynol. Gyda chydnabyddiaeth Irac fel gwladwriaeth annibynnol (a adnabyddwyd fel 'Mandad Prydain ym Mesopotamia' ) ym 1932, adenillodd Baghdad rywfaint o'i amlygrwydd blaenorol, yn raddol fel canolfan sylweddol o ddiwylliant Arabaidd, gyda phoblogaeth o tua 6 neu 7 miliwn.[3][4]

Yn y cyfnod modern, difrodwyd y ddinas yn ddifrifol, yn fwyaf diweddar oherwydd goresgyniad Irac dan arweiniad yr Unol Daleithiau yn 2003, a'r Rhyfel Irac dilynol a barhaodd tan fis Rhagfyr 2011. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ddinas wedi gweld llawer o wrthryfela, ffrwydro ac ymosodiadau. Mae hyn i gyd wedi arwain at golled sylweddol o fywydau a threftadaeth ddiwylliannol ac arteffactau hanesyddol. O 2018 ymalen, rhestrwyd Baghdad fel un o'r lleoedd lleiaf croesawgar i fyw ynddo, wedi'i raddio gan Mercer fel y ddinas fawr waethaf y byd o ran ansawdd bywyd.[5]

GeirdarddiadGolygu

Mae'r enw Baghdad yn deillio o gyfnod cyn-Islamaidd, ac mae dadl ynghylch ei darddiad.[6] Mae'r safle lle datblygodd dinas Baghdad wedi'i phoblogi ers milenia. Erbyn yr 8g OC, roedd sawl pentref wedi datblygu yno, gan gynnwys pentrefan Persiaidd o'r enw Baghdad, yr enw a fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y metropolis Abassaidd.[7][8][9]

Yn gyffredinol, roedd awduron Arabaidd, wrth sylweddoli gwreiddiau cyn-Islamaidd enw Baghdad, yn edrych am ei wreiddiau yn Persia Canol. Roeddent yn awgrymu amryw o ystyron, y mwyaf cyffredin ohonynt oedd "rhoddwyd gan Dduw".[6] Mae'r gair, felly'n air cyfansawdd, wedi'i ffurfio o bagh ( ) "duw" a dād ( ) "rhoddwyd (gan)",[10][11]

HanesGolygu

SefydluGolygu

Codwyd y ddinas gyntaf gan y califf Mansur yn yr 8g. Credai Mansur mai Baghdad oedd y lleoliad perffaith i brifddinas yr Ymerodraeth Islamaidd o dan yr Abbasiaid.[12] Cofnododd yr hanesydd Mwslimaidd al-Tabari fod gan fynachod Cristnogol wagfynegiad y byddai arglwydd o’r enw Miklas ryw ddiwrnod yn adeiladu dinas ysblennydd o amgylch ardal Baghdad. Pan glywodd Mansur y stori, daeth yn llawen iawn, oherwydd yn ôl y chwedl, fe’i galwyd yn Miklas pan oedd yn blentyn. Roedd Mansur wrth ei fodd â'r safle gymaint y dywedodd: "Dyma'r ddinas y bwriadaf ei sefydlu, lle rydw i i fyw, a lle bydd fy nisgynyddion yn teyrnasu wedi hynny."[13][14]

Cynorthwywyd twf y ddinas gan ei lleoliad rhagorol, yn seiliedig ar o leiaf ddau ffactor:

  1. roedd ganddi reolaeth dros lwybrau strategol a masnachu ar hyd y Tigris, ac
  2. roedd ganddi ddigonedd o ddŵr mewn hinsawdd sych.

Mae dŵr yn bodoli ym mhen gogleddol a deheuol y ddinas, gan ganiatáu i bob cartref gael cyflenwad digonol, a oedd yn anghyffredin iawn yn ystod yr amser hwn. Buan iawn y daeth dinas Baghdad mor fawr nes bod yn rhaid ei rhannu'n dair ardal farnwrol: Madinat al-Mansur (y Ddinas Grwn), al-Sharqiyya (Karkh) ac Askar al-Mahdi (ar y Lan Orllewinol).[15]

Goresgyniadau 10-16gGolygu

Am ganrifoedd bu'n ganolfan diwylliant, masnach, dysg a chrefydd nes iddi gael ei hanrheithio gan y Mongoliaid yn 1258. Roedd hynny'n ergyd sylweddol ac yn ddechrau dirywiad cyffredinol ym myd gwleidyddol y gwledydd Arabaidd.

20-21gGolygu

Arhosodd Baghdad a de Irac o dan lywodraeth Otomanaidd tan 1917, pan gafodd ei gipio gan y Loegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1920, daeth Baghdad yn brifddinas Mandad Prydain ym Mesopotamia gyda sawl prosiect pensaernïol a chynllunio wedi'u comisiynu i atgyfnerthu'r weinyddiaeth hon. Ar ôl derbyn annibyniaeth ym 1932, daeth Baghdad yn brifddinas Teyrnas Irac. Tyfodd poblogaeth y ddinas o amcangyfrif o 145,000 ym 1900 i 580,000 ym 1950.[16]

Ar 1 Ebrill 1941, llwyfannodd aelodau o'r "Sgwâr Aur" a Rashid Ali coup yn Baghdad. Gosododd Rashid Ali lywodraeth a oedd yn bleidiol i'r Almaen a pro-Eidalaidd i gymryd lle llywodraeth Regent Abdul Ilah - a oedd o blaid Lloegr. Ar 31 Mai, ar ôl y Rhyfel Eingl-Irac ac ar ôl i Rashid Ali a'i lywodraeth ffoi, ildiodd Maer Baghdad i luoedd Lloegr a'r Gymanwlad. Ar 14 Gorffennaf 1958, llwyfannodd aelodau Byddin Irac, o dan Abd al-Karim Qasim, coup arall i drechu Teyrnas Irac. Lladdwyd y Brenin Faisal II, y cyn Brif Weinidog Nuri as-Said, y cyn-Dywysog Rhaglaw 'Abd al-Ilah, aelodau o'r teulu brenhinol, ac eraill yn greulon yn ystod y coup. Yna llusgwyd llawer o gyrff y dioddefwr trwy strydoedd Baghdad.

CyfeiriadauGolygu

  1. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  2. Largest Cities Through History; Geography.about.co; 6 Ebrill 2011; adalwyd 19 Mehefin 2011; gweler hefyd archif |archive-date=27 Mai 2005
  3. Amcangyfrifir fod cyfanswm y boblogaeth yn amrywio'n sylweddol. Amcangyfrifodd Llyfr Ffeithiau'r Byd CIA fod poblogaeth 2020 Baghdad yn 7,144,000.
  4. "Middle East :: Iraq". CIA World Factbook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 January 2021. Cyrchwyd 16 May 2020.
  5. Vienna unbeatable as world's most liveable city, Baghdad still worst Archifwyd 9 November 2020[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.. Reuters. Adalwyd 14 Chwefror 2019.
  6. 6.0 6.1 Duri, A.A. (2012). "Bag̲h̲dād". In P. Bearman; Th. Bianquis; C.E. Bosworth; E. van Donzel; W.P. Heinrichs (gol.). Encyclopaedia of Islam (arg. 2nd). Brill. doi:10.1163/1573-3912_islam_COM_0084.
  7. "Baghdad, Foundation and early growth". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 October 2015. Cyrchwyd 21 October 2015. [...] dewiswyd y safle rhwng Al-Kāẓimiyyah heddiw ac Al-Karkh ac wedi'i feddiannu gan bentref Persiaidd o'r enw Baghdad, gan al-Manṣūr, ail caliph llinach Abbāsid, ar gyfer ei brifddinas.
  8. Le Strange, G. (n.d.). [...] The Persian hamlet of Baghdad, on the Western bank of the Tigris, and just above where Sarat canal flowed in, was ultimately fixed upon [...]. In Baghdad during the Abbasid Caliphate (p. 9).
  9. E.J. Brill's First Encyclopaedia of Islam 1913-1936. 1987. ISBN 978-9004082656. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 February 2021. Cyrchwyd 4 Hydref 2020.
  10. Mackenzie, D. (1971). A concise Pahlavi Dictionary (p. 23, 16).
  11. "BAGHDAD i. Before the Mongol Invasion – Encyclopædia Iranica". Iranicaonline.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2013.
  12. Corzine, Phyllis (2005). The Islamic Empire. Thomson Gale. tt. 68–69.
  13. Times History of the World. London: Times Books. 2000.
  14. Wiet, Gastron (1971). Baghdad: Metropolis of the Abbasid Caliphate. University of Oklahoma Press.
  15. Tillier, Mathieu (2009). Les cadis d'Iraq et l'État Abbasside (132/750-334/945). Presses de l’Ifpo. doi:10.4000/books.ifpo.673. ISBN 978-2-35159-028-7.
  16. Jackson, Iain (2 Ebrill 2016). "The architecture of the British Mandate in Iraq: nation-building and state creation" (yn en). The Journal of Architecture 21 (3): 375–417. doi:10.1080/13602365.2016.1179662. ISSN 1360-2365.