Abdullah ibn al-Mu'tazz
Bardd Arabeg canoloesol oedd Abdullah ibn al-Mu'tazz (861 - 908). Roedd yn aelod o'r frenhinllin Abbasid, califfiaid Baghdad.
Abdullah ibn al-Mu'tazz | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 861 Samarra |
Bu farw | 29 Rhagfyr 908, 17 Rhagfyr 908 Baghdad |
Galwedigaeth | bardd, llenor, Califf |
Swydd | Abbasid caliph |
Tad | Al-Mu'tazz |
Cafodd ei eni yn Samarra (yng ngogledd Irac heddiw), yn or-or-ŵyr i'r califf mawr Harun al-Rashid. Roedd yn gyfnod o gynllwyniau yn y llys brenhinol a phan lofruddiwyd ei dad ffoes yr al-Mu'tazz ifanc i Fecca am noddfa gyda'i nain. Dychwelodd i Faghdad a thyfodd i fyny i fod yn llenor disglair ac ysgolhaig llenyddol, gan osgoi gwleidyddiaeth y llys. Ond roedd rhai pobl eisiau iddo fod ar yr orsedd i geisio rhoi diwedd ar yr ansefydlogrwydd yn y deyrnas. Cytunodd al-Mu'tazzi yn y diwedd, yn erbyn ei ewyllys, yn 908. Rheolodd am ddiwrnod a noson yn unig cyn ffoi am ddiogelwch. Cafodd ei ddal a'i lindagu.[1]
Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar farddoniaeth Arabeg glasurol, y Kitab al-Badi. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.[1]