Credir fod Abercuawg yn enw cynnar ar aber afon Dulas, ffrwd sy'n aberu yn Afon Dyfi ger Machynlleth, Powys. Mae ganddo arwyddocad arbennig yn llenyddiaeth Cymru, yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd.

Er nad yw'r enw ei hun wedi goroesi fel enw lle, ceir hen blasdy o'r enw Dol Cuog (Dol Cuawg) ym Mhenegoes, ger Machynlleth.[1]

Ceir y cyfeiriad cynharaf ar glawr yn y gerdd 'Claf Abercuawg', dilyniant o englynion a gyfansoddwyd gan fardd anhysbys yn y 9fed neu'r 10g ac sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen. Yn y gerdd honno mae rhyfelwr claf yn cwyno am na all fynd i ryfela bellach. Cyfeiria sawl gwaith at ganu'r gog, sy'n dwyshau ei dristwch:

Yn Aber Cuawc yt ganant gogeu
Ar gangheu blodeuawc:
Gwae claf a'e clyw yn vodawc.[2]

Cyfieithwyd y gerdd i'r Saesneg gan Edward Thomas a'i chyhoeddi yn ei gyfrol ddylanwadol Beautiful Wales (1905).

Yn ei ddarlith adnabyddus Abercuawg (1977), ceisiodd y bardd cenedlaetholgar R. S. Thomas ddiffinio hanfod Cymru a Chymreictod gan gyfeirio sawl gwaith at Abercuawg a'r hen gerdd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935), tud. 162.
  2. Canu Llywarch Hen, cerdd VI.