Powys

prif ardal a sir gadwedig yng nghanolbarth Cymru

Sir yn nwyrain canolbarth Cymru sy'n ymestyn ar hyd y gororau yw Powys, a'r sir gyda'r arwynebedd mwyaf yng Nghymru: 5,179 km² (2,000 mi sg). Cafodd ei henwi ar ôl teyrnas ganoloesol Powys. Mae'n cynnwys tiriogaeth hen siroedd Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog. Mae'n ardal wledig sy'n cynnwys sawl tref farchnad hanesyddol fel Machynlleth, Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng. Y Drenewydd yw canolfan weinyddol y sir, lle ceir prif swyddfeydd yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Powys. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 132,200.

Powys
Mathprif ardal, siroedd cadwedig Cymru Edit this on Wikidata
Poblogaeth132,447 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,180.6804 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Henffordd, Ceredigion, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Swydd Amwythig, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Wrecsam, Clwyd, Dyfed, Gwent, Morgannwg Ganol, Gorllewin Morgannwg, Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3°N 3.4167°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000023 Edit this on Wikidata
GB-POW Edit this on Wikidata
Map
Logo'r Cyngor
Mae'r erthygl yma am sir Powys. Am yr hen deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Powys.

Yng Nghyfrifiad 2001 roedd 21% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.[1]

Daearyddiaeth golygu

Mae Powys yn rhanbarth mawr – yn chwarter arwynebedd Cymru, ac yn ymestyn o fynyddoedd Y Berwyn yn y gogledd i fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn y de. Yn y gorllewin ceir brynia'r Elenydd, tarddle'r afonydd Hafren a Gwy.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Rhennir y sir yn 110 o gymunedau:

Hanes golygu

Daw enw'r sir cyfredol o hen ardal weinyddol Gymreig, sef Teyrnas Powys. Gwêl yr hanesydd y Dr John Davies gysylltiad rhwng y gair Lladin pagus â'r ardal honno yng nghanolbarth Cymru, "Powys". Dywed: "Mae'n debygol bod perthynas rhwng y gair pagus a'r enw "Powys"; maent yn gytras felly â'r gair "pagan". Credir mai cnewyllyn teyrnas Powys oedd pagus neu gefn gwlad teyrnas y Cornovii ac i Bowys ehangu i gynnwys y diriogaeth honno...".[2]

 
Sedd yn Eglwys Crist, y Trallwng, gydag arfbais Powys.

Cynhanes ac Oes y Celtiaid golygu

Roedd Teyrnas Powys yn y 6g yn cynnwys dau dreuan o'r hyn a elwir yn Bowys heddiw – y ddau dreuan mwyaf gogleddol, ynghyd â'r rhan fwyaf o Swydd Amwythig. Daeth i ben pan gafodd ei uno gyda Theyrnas Gwynedd dan arweiniad Llywelyn ap Gruffudd (c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282). Ceir 60 o lannoedd ym Mhowys – llefydd sy'n cychwyn gyda "Llan", sy'n dangos fod yma gryn weithgarwch crefyddol yn y 6ed a'r 7ed ganrif.

Ond ceir olion pobl ganrifoedd cyn hyn: gwyddys hyn oherwydd fod arfau callestr o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) wedi'i ganfod yma. Yr hyn sy'n allweddol i'n dealltwriaeth o olion cynhanes (ac wedi hynny) Powys yw fod ynddi dair prif afon, tri dyffryn a thri mynedfa – a thrwyddynt y deuai pobl i'r ardal. Mae'r rhostiroedd i'r de o Afon Wysg yn debyg iawn i diroedd gogledd Morgannwg, a thrwyddynt hwy y cysylltwyd de Powys gyda Dyffryn Morgannwg a'r Môr Hafren. Yng nghanol y sir, mae dyffrynoedd yr Wysg ac Afon Gwy hefyd yn fynedfa ac yn ffyrdd tramwy naturiol i'r ardal, a thrwyddynt hwy y daeth y bobl a'r diwylliant Celtaidd a gododd gloddfeydd nodedig Talgarth. Ychydig i'r gogledd ceir y trydydd mynedfa i Bowys: dyffryn Afon Hafren, gyda'i diroedd ffrwythlon, cyfoethog.

Ceir dros 1130 o siambrau claddu o wahanol fathau ym Mhowys, yn dyddio o 4,000CC i 1000CC, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r Oes Efydd.[3] Mae 339 ohonynt wedi eu cofrestru fel henebion cofrestredig. Saif yma, fel cerfluniau o'r Oes Efydd 275 o feini hirion, gyda 92 wedi'u cofrestru. Mae yma hefyd 90 o fryngaerau o Oes yr Haearn a 54 lloc (tir caeedig) ac aneddiadau. Yn Nhalgarth, o fewn ardal o tua dwy filltir sgwar, ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972. Ceir siambrau tebyg ym Morgannwg ac yn y Cotswolds a gelwir y math hwn yn Feddrodau Hafren-Cotswold.

Rhwng 2,000 a 1,500 CC daeth Diwylliant Bicer Gloch i Ynys Prydain, ond ychydig iawn o'u holion sydd ym mhowys, gyda'r rhan fwyaf tua diwedd y cyfnod. Yn eu plith mae Gallt Caebetin, Ynys Hir (Mynydd Epynt) a glannau Afon Tefeidiad, ger Tref-y-clawdd. Carneddi bychain oedd y rhain, a oedd yn aml yn cynnwys wrn o lwch un neu ddau person wedi'i amlosgi. Ceir hefyd gylchgoedd neu resi o gerrig o'r cyfnod yma ger Llyn Bugeilyn a Phant Sychbant (Fforest Fawr). Yn Heyop ac yn Llanwrthwl cafwyd casgliadau o dorchau aur a grewyd tua diwedd yr Oes Efydd. Mae'n debygol iawn iddynt gael eu gwneud yn lleol, mewn arddull Gwyddelig.

Adeiladau golygu

Neuaddau canoloesol golygu

Mae Powys yn hynod iawn o ran ei neuaddau canoloesol, gan ei bod yn dilyn patrwm arbenng lle ceir neuaddau a godwyd o garreg yn Sir Frycheiniog, neuaddau pren yn Sir Drefaldwyn a neuaddau o garreg a choed yn Sir Faesyfed. Mewn geiriau eraill, dyma'r patrwm: neuaddau carreg i'r gorllewin o'r sir a phren i ddwyrain y sir. Ceir nifer o neuaddau sy'n dyddio i'r 14g ym Mhowys (a'r tri ym Mrycheiniog), gan gynnwys Neuadd Fawr a'r Neuadd Fach (Coleg Crist, Aberhonddu) a Phalas yr Esgob (Sant Dewi, Llan-ddew). Yn lled ddiweddar, deuthpwyd i ddeall fod Tŷ Uchaf (Castell Paun, Sir Faesyfed) hefyd yn dyddio i'r 14g. Codwyd Tŷ Mawr (Castell Caereinion) tua 1400 o garreg a phren ac felly hefyd Cwrt-Plas-y-Dre (y Drenewydd.[4]

Y neuadd fawr garreg fwyaf ym Mhowys yw Tretŵr a oedd yn eiddo i William ap Thomas a'i deulu; ef hefyd oedd perchennog Castell Rhaglan yng Ngwent. Ymhlith y neuaddau eraill mae: Porthaml (Talgarth) c. 1460, yr Hen Ficerdy (y Clas-ar-Wy) c. 1400.

Ceir sawl tŷ ffrâm nenfforch (cruck framed houses) ym Mhowys, sef dull o dorri coeden ar i lawr (yn fertig) – coeden gyda thro ynddi – er mwyn ffurfio ffrâm yr adeilad; roedd hyn yn hynod o boblogaidd yn y 15g a'r 16g. Ceir nifer ohonynt drwy Bowys: yn Sir Frycheiniog ceir dros 25, Sir Drefaldwyn 100 a Sir Faesyfed dros 50. Y tŷ ffrâm nenfforch mwyaf ym Mhowys yw Tŷ Mawr (Newchurch, Powys; 25 tr) ac ymhlith y goreuon mae: Bryndraenog (Bugeildy; 19 tr), a cheir sawl ysgubor ar y ffurf hwn yn Maestorglwydd Ganol (Llanigon), Hen Rydycarw (Trefeglwys).

Wrth i'r ffasiwn o godi tai ffrâm nenfforch ddirwyn i ben tua diwedd y 16g, dechreuwyd codi tai ffrâm bren: Bryndraenog, Gwernfyda, Llanllugan a Ciliau (Llandeilo Graban). Codwyd tai hir ledled Cymru i gysgodi pobl ac anifeiliaid dan yr un to; mae Tŷ Mawr (Llanfihangel Nant Melan) yn esiampl gwerth chweil, ac felly hefyd Cileos (Penybontfawr) a Hepste Fawr (Ystradfellte), gyda drws yn cysylltu'r ddwy ran wedi goroesi'r canrifoedd.

Cestyll a hynafiaethau eraill golygu

Codwyd 23 o gestyll carreg ym Mhowys, gyda'r rhan fwyaf wedi'u codi o ganlyniad i frwydro rhwng y Cymry a'r Saeson yn y 12g.

Cyn hynny cafwyd nifer o gestyll mwnt a beili wrth i'r Normaniaid geisio cipio tir oddi wrth y Cymry brodorol.

Tyrau petrual oedd cestyll carreg y 12g, gan gynnwys Castell Powys neu weithiau "Gastell Coch" (ger y Trallwng) a chestyll y Gelli Gandryll a Chastell Dinas Brân. Erbyn 1220 gwelwyd tyrau crwn: Bronllys, Tretŵr a Chastell Cwm Camlais – un o gestyll Llywelyn ap Gruffudd. Yn dilyn gwaith cloddio yng Nghastell Trefaldwyn, cafwyd tystiolaeth fod yno borth deudwr (porth a wnaed drwy uno dau dŵr) – y cyntaf o'i fath i'w adeiladu yng Nghymru.

Doedd dim gwahaniaethau mawr rhwng cestyll Cymreig a'r rhai a godwyd gan y goresgynwyr Seisnig, fel rheol, ond weithiau, cododd y Tywysogion Cymreig gestyll siâp "D" ee Castell Coch ac Ystradfellte (yn y Fforest Fawr) a Chastell Powys, a godwyd gan Gruffudd ap Gwenwynwyn c. 1280, ac sydd wedi goroesi'r canrifoedd.

Yn 1277 y cychwynwodd Edward I, brenin Lloegr ar y gwaith o godi ei unig gastell ym Mhowys, a hynny ym Muellt. Wedi llofruddio Llywelyn ar 11 Rhagfyr 1282, codwyd waliau i amddiffyn nifer o drefi, gan gynnwys: Tref-y-clawdd (fel yr awgryma'r enw), Maesyfed, Llanandras a Rhaeadr Gwy.

Eglwysi a henebion crefyddol eraill golygu

Ceir dros 80 o seintiau a roddodd eu henwau i lannoedd ym Mhowys ond nid oes unrhyw olion o'r eglwysi cynnar (6g-11g) wedi goroesi ar wahân i un eglwys: Llanandras lle ceir wal a bwa a all berthyn i arddull Sacsonaidd. Ond ceir dros 20 o gerrig wedi'u haddurno, gan gynnwys bedyddfaeni; yn eu plith mae bedyddfaen Pencraig (8g), Newchurch, Powys (10g neu'r 11g), Defynnog (11g) a Phartrishow (11g). Mae bedyddfaen Defnnog yn cynnwys addurniadau o ddail ac ysgrifen rwnig a Lombardaidd (ardal yng ngogledd yr Eidal). Ceir nifer o golofnau cerfiedig hefyd (o'r 5g a'r 6g) gan gynnwys: Trallong, Carreg Turpillius, Maen Madog, Ystradfellte a Charreg Rustece (Llanerfyl), nifer ohonynt yn cynnwys addurn y Groes Geltaidd a chlymau Celtaidd cain. Y mwyaf cain, efallai, yw Carreg Llywel o'r 8g, sydd bellach wedi'i werthu i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain am £10.

Mae'r rhan fwyaf o'r eglwysi mewn llannau crwn, ar gopa bryn neu ar lan afon, ac mae'r tri ffactor hyn yn dangos eu bod yn perthyn i gyfnod cyn-Gristnogaeth. O'r 10g i'r 12g, trodd y mynachlogydd yn glasau, gyda phob eglwys yn cyfrannu tuag atynt a phob un yn cynnwys abad, offeiriad a chanon. Parhaodd y rhain yn eitha annibynnol hyd nes iddynt gael eu hymgorffori o fewn yr Eglwys Gatholig. Roedd 7 clas ym Mhowys: Llandinam, Llangurig, Meifod, y Clas-ar-Wy, Glascwm, Sant Harmon a Llanddew.

Mae'r eglwysi'r Oesoedd Canol yn gymysgedd o bensaerniaeth.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Bwrdd yr Iaith, (disbanded 2012), Dalen a archifwyd, 30 Mawrth 2012
  2. John Davies, Hanes Cymru (Llyfrau Penguin, 1990), tudalen 52.
  3. Clwyd-Powys Archaeological Trust: Introducing Prehistoric burial and ritual sites. Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 18 Mawrth 2018
  4. Richard Haslam, The Buildings of Wales: Powys, tud. 39.

Dolen allanol golygu