Aberdeen F.C.
Tîm pêl-droed yn Aberdeen yn yr Alban sy'n chwarae yn Uwchgynghrair yr Alban yw Aberdeen Football Club. Maen nhw'n chwarae yn Stadiwm Pittodrie.
Enw llawn |
Aberdeen Football Club (Clwb Pêl-droed Aberdeen) | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
The Dons The Reds The Dandies | ||
Sefydlwyd | 1903 | ||
Maes | Stadiwm Pittodrie | ||
Cadeirydd | Dave Cormack | ||
Rheolwr | Derek McInnes | ||
Cynghrair | Uwchgynghrair yr Alban | ||
2021-2022 | 10. | ||
|
Sefydlwyd y clwb ym 1903. Mae Aberdeen ymysg clybiau mwyaf llwyddiannus yr Alban. Mae'r tîm yng nghynghrair uchaf yr Alban ers cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Profodd gyfnod arbennig o lwyddiannus yn yr wythdegau, pan enillodd Uwchgynghrair yr Alban deirgwaith, ynghyd â Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1983.