Uwch Gynghrair yr Alban
Cynghrair pêl-droed yn yr Alban a'r uchaf o bedwar adran Cynghrair Pêl-droed Proffesiynol yr Alban yw Uwch Gynghrair yr Alban (Saesneg: Scottish Premiership). Fe'i sefydlwyd fel olynydd i Uwch Gynghrair yr Alban ym mis Gorffennaf 2013.[2] Enillwyr gyntaf y oedd Celtic F.C.. Fe'i hystyrir, er yn dechnegol yn strwythur arwahân, yn yr un llinach â'r Premiere League flaenorol a'r 1st Division cyn hynny.
Gwlad | Yr Alban |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2013 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Scottish Championship |
Cwpanau | Cwpan yr Alban |
Cwpanau cynghrair | Scottish League Cup |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr Presennol | Celtic (7fed teitl) (2019–20) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Celtic (7 teitl)[1] |
Partner teledu | Sky Sports BT Sport BBC Scotland |
Gwefan | spfl.co.uk |
2019–20 Scottish Premiership |
Hanes ac esblygiad
golyguCynhaliwyd tymor cyntaf Cynghrair Pêl-droed yr Alban yn 1890 o dan yr enw Scottish Football League gyda 10 tîm yn cystadlu a diddorol yw nodi y cafwyd 2 bencampwr - Glasgow Rangers a Dumbarton F.C. gan iddynt ennill yr un nifer o bwyntiau ac roedd gêm ailgyfle rhwng y ddau wedi gorffen yn gyfartal. Datblygodd diddordeb yn y gêm ac fe gyflwynwyd Ail Adran gan newid enw'r adran gyntaf i'r Scottish League Division One.
Yn ystod yr 1920au a'r 30au, roedd Division One a Division Two ill dau yn cynnwys 20 tîm (roedd 22 tîm yn Division One ar un adeg), a chrewyd 3ydd adran ar gyfer 1946/47. Gyda hyn newidiwyd enw Division One eto, y tro yma i Scottish League Division A.
Yn 1955, ail-sefydlwyd y system dwy adran a cafwyd Scottish League Division One gydag 18 tîm. Yn 1977 newidiwyd yr enw eto a, y tro yma i'r Scottish League Premier Division a chwtogwyd nifer y timau i 10 neu 12 y tymor.
Ar 8 Medi 1997, penderfynnodd clybiau'r Premier Division dorri'n rhydd o'r Scottish Football League a sefydlu'r Scottish Premier League (SPL), gan ddilyn esiampl clybiau Uwch Gynghrair Lloegr.[3] Daeth y Scottish League Premier Division felly yn Scottish Premier League gan ddod yn annibynnol o Gymdeithas Bêl-droed yr Alban (yr SFA). Parhaodd yr SFA i redeg adrannau'r First Division (ail haen), Second Division (trydydd haen) a'r Third Division (pedwerydd haen). Y rheswm dros yr hollt yma oedd dyhead clybiau'r Premier League am ragor o gyllid a rhagor o reolaeth dros yr adran ond parhaodd y berthynas gyda'r adrannau îs gyda thimau'n esgyn a disgyn adran.
Yn 2010, ar ôl sylweddoli bod bwlch mawr rhwng incwm clybiau'r Alban o'u cymharu â rhai Lloegr, a record symol y tîm cenedlaethol, sefydlwyd tasglu ac adroddiad gan gyn-Brif Weinidog yr Alban, Henry McCleish gan yr SFA a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2010.[4] Argymhellodd McLeish y dylsai fod gan bêl-droed yr Alban un gorff ar gyfer system y gynghrair a dylsid lleihau'r uwch adran i 10 clwb.[5]
Yn 2013, unwyd y Scottish Premier League a'r Scottish Football League i greu y Scottish Professional Football League, a newidiwyd enw'r adran uchaf i'r Scottish Premiership, a'r ail adran yn y reng, yn Scottish Championship.[6][7]
Strwythur
golyguMae deuddeg tîm y gynghrair yn chwarae 38 o gemau y tymor: ar ôl 33 diwrnod gêm, pan fydd pob tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd deirgwaith, rhennir y gynghrair yn ddau grŵp gyda'r chwe thîm gorau a gwaethaf yn y drefn honno. Bydd timau'r grwpiau priodol yn chwarae unwaith yn erbyn ei gilydd naill ai ar gyfer y bencampwriaeth (grŵp o'r chwe thîm gorau) neu rhag disgyn o'r adran (grŵp o'r chwe thîm gwaethaf). Ar ôl y pum diwrnod gêm hyn, mae'r tymor ar ben. Felly, ar ddiwedd y tymor, er enghraifft, gall y tîm yn y seithfed safle fod â mwy o bwyntiau na'r tîm yn y chweched safle.
Y tîm ar frig grŵp y chwe thîm gorau yw pencampwr yr Alban. Mae'r tîm ar waelod grŵp y chwe thîm gwaethaf yn cael ei ddisodli gan bencampwr Pencampwriaeth yr Alban, ar yr amod ei fod yn bodloni meini prawf economaidd penodol (e.e. elw llawn) a'r meini prawf a osodir ar gyfer stadiwm (stadiwm seddi'n unig ac ati). Mae'r tîm sy'n gorffen yn y safle olaf ond un yn chwarae mewn gêm ailgyfle yn erbyn y tîm sy'n fuddugol mewn gemau ailgyfle rhwng y timau a orffenodd yn yr ail, trydydd a phedwerydd safle ym Mhencampwriaeth yr Alban, gyda chyfle i gadw ei le yn yr Uwchgynghrair.
Pencampwyr
golyguPencwmpwyr prif adran yr Alban yn ei gwahanol ffurfiadau ac enwau (cywir hyd at ddiwedd tymor 2019/2020).
Clwb | Lleoliad | Ennill | Ail | Trydydd |
---|---|---|---|---|
Rangers | Glasgow | 54 | 32 | 19 |
Celtic | Glasgow | 52 | 31 | 17 |
Aberdeen | Aberdeen | 4 | 18 | 8 |
Heart of Midlothian | Caeredin | 4 | 14 | 18 |
Hibernian F.C. | Caeredin | 4 | 5 | 14 |
Dumbarton F.C. | Dumbarton | 2 | ||
Motherwell F.C | Motherwell | 1 | 6 | 9 |
Kilmarnock F.C. | Kilmarnock | 1 | 4 | 3 |
Dundee F.C. | Dundee | 1 | 4 | 1 |
Dundee United F.C. | Dundee | 1 | 8 | |
Third Lanark | Glasgow | 1 | 2 | |
Airdrieonians | Airdrie | 4 | 1 | |
Falkirk F.C. | Falkirk | 2 | 1 | |
Greenock Morton | Greenock | 1 | 3 | |
Clyde | Glasgow (do 1994.) Cumbernauld |
3 | ||
Partick Thistle F.C. | Glasgow | 3 | ||
St. Johnstone F.C. | Perth | 3 | ||
Dunfermline Athletic | Dunfermline | 2 | ||
East Fife | Methil | 2 | ||
St. Mirren F.C. | Paisley | 2 | ||
Inverness Caledonian Thistle F.C. | Inverness | 1 | ||
Livingston F.C. | Livingston | 1 | ||
Raith Rovers F.C. | Kirkcaldy | 1 | ||
St. Bernard's | Caeredin | 1 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Scottish Premiership has only existed since 2013. For a complete record of clubs that have won Scottish league championships, see list of Scottish football champions.
- ↑ "SPFL: New Scottish league brands unveiled". BBC Sport. BBC. 24 July 2013. Cyrchwyd 24 July 2013.
- ↑ McLaughlin, Chris (14 Ebrill 2013). "Scottish clubs set for vote on league reconstruction proposals". BBC. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2013.
- ↑ "McLeish Report". scottishfa.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Awst 2012. Cyrchwyd 16 Mehefin 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Henry McLeish review backs SPL plan for 10-team leagues". BBC. 16 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2013.
- ↑ BBC Sport, SFL clubs vote in favour of merger with SPL, canfuwyd 3 Mai 2014.
- ↑ BBC Sport, The new Scottish Professional Football League survives hitch, canfuwyd 3 Mai 2014.