Abhainn Gharadh, Ucheldir yr Alban
Mae Abhainn Gharadh (Saesneg: River Garry) yn afon yn Ucheldir yr Alban sy’n cynnwys sawl llyn, rhai ohonynt yn gronfeydd dŵr o’r 1960au. Tarddiad yr afon yw Na Garbh Chriochan (Saesneg: The Rough Bounds), ardal sy’n cynnwys Moidart, Arisaig, Morar a Knoydart,[1] ac wedyn yn llifo at Loch Quoich, ac ar ôl ymuno â’r Afon Kingie, yn llifo at Loch Poulary a Loch Gharadh cyn cyrraedd Loch Oich.