Ucheldiroedd yr Alban

(Ailgyfeiriad o Ucheldir yr Alban)

Mae'r term daearyddol Ucheldiroedd yr Alban (Gaeleg: A' Ghàidhealtachd 'Gwlad y Gael', Saesneg Highlands) yn cael ei arfer i ddisgrifio ardal fynyddig gogledd yr Alban sy'n gorwedd i'r gogledd ac i'r gorllewin o Rwyg Ffin yr Ucheldiroedd. Mae'r Glen Mawr yn gwahanu Mynyddoedd Grampian i'r de-ddwyrain oddi ar Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol yr Alban.

"Croeso i'r Ucheldiroedd" ar arwydd a osodwyd gan Gyngor yr Ucheldir, sy'n gweinyddu ardal sy'n llai o lawer na'r Ucheldiroedd ei hun.

Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno gan fod tir cynhyrchiol yn brin a dominyddir y tirlun gan y cadwyni mynydd niferus. Mae'r dwysedd poblogaeth yn is ar gyfartaledd nag yn Sweden, Norwy, Papua Gini Newydd neu'r Ariannin. Ar un adeg, roedd y boblogaeth gryn dipyn yn fwy nag yw heddiw. Yn ystod ail hanner y 18g a hanner cyntaf y 19g, diboblogwyd yr Ucheldiroedd i raddau helaeth gan broses Clirio'r Ucheldiroedd. Gorfodwyd tenantiaid i ymadael â'u tyddynnod er mwyn gwneud lle i wartheg a defaid.

Mae'r canolfannau gweinyddol yn cynnwys Inverness. Cyngor yr Ucheldiroedd yw'r corff gweinyddol ar gyfer tua 40% o'r ardal; rhennir y gweddill rhwng ardaloedd cyngor Aberdeenshire, Angus, Argyll a Bute, Moray, Perth a Kinross, a Stirling. Yn ogystal cyfrifir rhan ogleddol Ynys Arran fel rhan o'r Ucheldiroedd yn ddaearyddol, er ei bod yn cael ei gweinyddu gan gyngor Gogledd Swydd Ayr.

Trefi a phentrefi

golygu

Lleoedd eraill o ddiddordeb

golygu

Gweler hefyd

golygu

Gweler hefyd

golygu