Abinger Hammer
Pentref yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Abinger Hammer, hanner ffordd rhwng Dorking a Guildford ar y ffordd A25. Mae Afon Tillingbourne yn llifo try’r pentref. Crewyd Pwll Morthwyl yn yr 16eg ganrif, yn rhoi pŵer i felin forthwyl, yn gweithio gyda haearn.[1] Erbyn hyn tyfir berwr y dŵr’[2]. Caewyd y gwaith haearn yn 1787.[3] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Abinger yn ardal an-fetropolitan Mole Valley.
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Abinger |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.2166°N 0.4329°W |
Cod OS | TQ095475 |
Cod post | RH5 |
Mae’r cloc ar y prif-ffordd yn dangos ‘Jack y Gof’, sy’n curo ar y cloc bob awr. Mae’r cloc yn cynrychioli’r dywidiant haearn yn Surrey.
Addysg
golyguCaewyd yr ysgol leol gan yr awdurdod lleol ym 1982, a cymerodd y gymuned leol drosodd ond caewyd yr ysgol yng Ngorffennaf 2009 oherwydd diffyg dysgwyr.[4]
Pobl
golyguGwnaeth E. M. Forster fyw yn Abinger Hammer gyda’i fam, Alice Clare, rhwng 1925 a 1945. Cynlluniodd ei dad, Eddie Morgan Foster, y tŷ.[5]
Mae’r actor John Gordon Sinclair yn byw yn Abinger Hammer.
Neuadd Abinger
golyguLleolir Neuadd Abinger yno hefyd. Dymchwelwyd y tŷ ym 1959.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ’Hammer and Furnace Ponds' gan H. Pearce; cyhoeddwyr Gwasg Pomegranate, 2011.
- ↑ Gwefan hammerpond.org.uk
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Medi 2022
- ↑ Gwefan yr Adran Addysg
- ↑ [https://web.archive.org/web/20160304024259/https://www.heureka.clara.net/surrey-hants/surrey-writers.htm Gwefan heureka.clara.net}}
- ↑ Gwefan parksandgardens.org