Acmeaeth
Mudiad barddonol yn yr iaith Rwseg a flodeuai yn y 1910au oedd Acmeaeth (Rwseg: Акмеизм, Akmeizm) a arddelai uniondeb ac eglurdeb, adwaith yn erbyn amwysedd y farddoniaeth Symbolaidd a'i rhagflaenodd.[1] Gelwir beirdd y mudiad yn Acmëyddion (Aкмеистами, Akmeistamy). Rhan o Foderniaeth ydoedd yn rhyngwladol, a cham olaf Oes Arian Barddoniaeth yn hanes llên Rwsia.
Hysbyslun o 1911 ar gyfer y cyfnodolyn Apollon. | |
Math o gyfrwng | mudiad llenyddol |
---|---|
Rhan o | moderniaeth |
Ym 1910 cyhoeddwyd dwy ysgrif yn y cyfnodolyn llenyddol avant-garde Apollon (1909–17), a fyddai'n amlinellu egwyddorion ac agweddau Acmeaeth: "O prekrasnoy yasnosti" ("Eglurder Hardd") gan Mikhail Kuzmin (1872–1936) a "Zhizn' stikha" ("Bywyd Barddoniaeth") gan Sergei Gorodetsky (1884–1967). Sefydlwyd "Urdd y Beirdd" gan arweinwyr yr Acmëyddion, Nikolai Gumilev (1886–1921) a Gorodetsky, yn St Petersburg, prifddinas Ymerodraeth Rwsia, ym 1911. Prif feirdd y cylch oedd Anna Akhmatova (1889–1966; gwraig Gumilev) ac Osip Mandelstam (1891–1938).
Daw'r enw o'r gair Groeg akme, sef "uchafbwynt" neu "gopa", nod uchelgeisiol y beirdd i ragori ar eu crefft. Honnai'r Acmëyddion eu bod yn gwrthdroi hen amhendantrwydd a ffug-rodres y Symbolwyr, ac yn gwrthod haniaeth a thywyllwch yn eu cerddi. Canolbwyntiasant ar ddelweddaeth ddiriaethol, disgrifiadau byw, ac ieithwedd glir. Pynciau cyffredin yr Acmëyddion oedd harddwch natur, bywyd pob dydd, a phrofiadau'r synhwyrau dynol.
Daeth Acmeaeth i'r amlwg mewn cyfnod hynod o gythryblus yn hanes Rwsia, ac yn sgil y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917 a sefydlu'r Undeb Sofietaidd, wynebodd llenorion ac artistiaid ormes a sensoriaeth. Daeth yr Acmëyddion dan amheuaeth y llywodraeth Sofietaidd am iddynt gael eu hystyried yn dra-ffurfiol a ffroenuchel. Cyhuddwyd Gumilev o fod yn rhan o ffug-gynllwyn Tagantsev, a fe'i dienyddiwyd gan y Cheka ym 1921. Trodd Gorodetsky ei gefn ar y cylch, gan ddatgan ei gefnogaeth i'r Bolsieficiaid a sefydlu ei hun yn "fardd Sofietaidd". Cafodd barddoniaeth Akhmatova ei chondemnio'n "fwrdeisaidd a phendefigaidd" gan yr awdurdodau am ei synfyfyrdodau ar bynciau serch a Duw, a rhoddwyd taw ar ei gwaith yn ystod y cyfnod Stalinaidd. Arestiwyd Mandelstam ym 1934, a bu farw mewn gwersyll crynhoi ym 1938.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Acmeist. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mehefin 2023.