Bardd Rwsiaidd-Wcreinaidd yn yr iaith Rwseg oedd Anna Akhmatova (18895 Mawrth 1966) a ystyrir yn un o ffigurau pwysicaf llên Rwsia yn yr 20g ac un o'r beirdd benywaidd gwychaf erioed.[1]

Anna Akhmatova
GanwydАнна Андреевна Горенко Edit this on Wikidata
11 Mehefin 1889 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Odesa Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1966 Edit this on Wikidata
Domodedovo Edit this on Wikidata
Man preswylOdesa, St Petersburg, Tashkent, Kyiv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyrsiau Merched Uwchradd Kiev Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, cyfieithydd, beirniad llenyddol, bardd, awdur, ysgolhaig llenyddol Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMikhail Lermontov, Alexandr Pushkin, Lev Tolstoy, Gustav Shpet, Amedeo Modigliani, Alexander Fadeyev, Nathan Altman, Innokenty Annensky Edit this on Wikidata
MudiadAcmeaeth Edit this on Wikidata
TadAndrey Gorenko Edit this on Wikidata
MamInna Stogova Edit this on Wikidata
PriodNikolay Gumilev, Vladimir Shileyko, Nikolay Punin Edit this on Wikidata
PartnerNikolay Punin Edit this on Wikidata
PlantLev Gumilyov Edit this on Wikidata
PerthnasauErazm Stogov Edit this on Wikidata
Gwobr/auTaormina prize, Medal "For the Defence of Leningrad, Jubilee Medal Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad", Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945" Edit this on Wikidata
llofnod
Delwedd:Ахматова Анна автограф.JPG, Akhmatova signature.svg

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Anna Andreyevna Gorenko yn Bolshoy Fontan ger Odesa yn Ymerodraeth Rwsia, a leolir heddiw yn yr Wcráin, a chanddi achau Rwsiaidd ac Wcreinaidd cymysg. Fe'i magwyd ar gyrion St Petersburg, ac yn ei blynyddoedd cynnar clywodd hi benillion oddi ar ei mam am hanes merched a'u gormes. Dechreuodd Anna gyfansoddi cerddi ei hunan yn 11 oed. Gorffennodd ei haddysg yn y gymnasiwm ger Kiev. Mynychodd ddarlithoedd yng Ngholeg Menywod Kiev i baratoi ar gyfer gyrfa yn y gyfraith, ond cafodd ei diflasu gan yr hyfforddiant hwn a phenderfynodd rhoi'r gorau i'r coleg ac ysgrifennu barddoniaeth, er gwaethaf siom ei thad.[1]

Yr Acmëyddion a'r Oes Arian

golygu
 
Portread olew o Anna Akhmatova gan Nathan Altman (1914).

Dychwelodd Anna i St Petersburg a phriododd â Nikolay Gumilyov, yn 1910. Teithiodd y cwpl i Baris am sawl mis i ymuno â bywyd diwylliannol y ddinas honno. Cawsant fab, Lev, yn 1912.[2] Gumilyov oedd un o arweinwyr yr Acmëyddion, grŵp o feirdd Rwseg – yn eu plith Osip Mandelstam a Sergey Gorodetsky – a oedd yn adwaith yn erbyn y mudiad Symbolaidd. Buont yn arddel yr hyn a elwir "eglurder hardd" gan Mikhail Kuzim yn lle dulliau amwys ac haniaethau'r hen Symbolyddion.

Mabwysiadodd ei ffugenw Anna Akhmatova yn 22 oed, er cof am hen wraig yn ei theulu a oedd yn disgyn o Akhmat Khan, yr arweinydd olaf o'r Tatariaid i ryfela'n erbyn y tsar. Cyfrannodd gerddi at y cylchgrawn Sirius, dan olygyddiaeth ei gŵr Nikolay. Sefydlwyd salon ganddi yn St Petersburg i gynnal cyfarfodydd rhwng beirdd y ddinas. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Вечер (Vecher), yn 1912. Dyma gasgliad o gerddi serch o safbwynt y ferch sydd yn bwrw golwg ar hynt y broses garu, o gariad ffôl hyd at dorri'r galon. Yn ei hail gasgliad, Чётки (Chetki; 1914), mae'r cerddi yn ymdrin â ffyddlondeb a phurdeb rhywiol.[1] Gyda'r ddwy gyfrol hon, enillodd Anna enw fel cynrychiolydd ei chenhedlaeth a chanddi lais emosiynol unigryw, ymdriniaeth soffistigedig o agweddau seicolegol ei themâu, ac arddull gain ei hiaith lafar.[2] Daeth yn ffigur amlwg yng nghylchoedd diwylliannol Rwsia, a phaentiwyd ei phortread gan sawl arlunydd.

 
Anna gyda'i gŵr Nikolay Gumilyov yn ei wisg filwrol a'u mab Levi (1915).

Gwasanaethodd Nikolay ym Myddin Ymerodraeth Rwsia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y cyfnod hwn. a'r blynyddoedd wedi Chwyldro Rwsia yn 1917, ymddangosodd themâu gwladgarol, gwleidyddol a chrefyddol yn ei gwaith. Yn ei thrydydd casgliad, Белая стая (Belaya Staya; 1917), cyflwynir myfyrdodau'r bardd yn oes y rhyfel mawr a mynegiant o'i theimladau gwrthdrawiadol am iddi odinebu tra'r oedd ei gŵr yn brwydro ar y ffrynt.[1] Cawsant ysgariad yn 1918, a phriododd Anna â'r bardd ac Asyriolegydd Vladimir Shileiko (1891–1930) cyn diwedd y flwyddyn.[2] Yn ystod y rhyfel cyflawnodd Anna yr alargan hir У самого моря (U samogo moria), gwaith sy'n gofidio am ddiwedd ieuenctid y ferch, a gyhoeddwyd ar ffurf llyfryn yn 1921. Y flwyddyn honno hefyd cyhoeddwyd y casgliad Подорожник (Podorozhnik) ganddi. Ar gyfer y casgliad Anno Domini MCMXXI (1921), cyfansoddai portreadau ar fydr o wragedd yr Hen Destament: gwraig Lot; Rachel, ail wraig Jacob; a Michal, gwraig gyntaf Dafydd.[1] Mae'r cyfrolau hefyd yn dangos medr Anna ar ei chrefft, grym ei llais mydryddol, a'i gallu i gyfuno motiffau newydd â'i chydwybod farddol.[2]

 
Anna yng nghwmni tri bardd arall o'r Oes Arian. rhywbryd yn nechrau'r 1930au (o'r chwith i'r dde): Georgy Chulkov, Mariya Petrovykh, Anna Akhmatova, ac Osip Mandelstam.

Er iddi ymdrin â phethau'r byd materol a dinesig yn ei gwaith diweddar, cafodd ei barddoniaeth ei chondemnio'n "fwrdeisaidd a phendefigaidd" gan yr awdurdodau comiwnyddol am ei synfyfyrdodau ar bynciau serch a Duw. Er gwaethaf, dyrchafwyd Anna gan ei chyfoedion yn un o brif feirdd yr Oes Arian ym marddoniaeth Rwsia. Meddai'r ysgolhaig llenyddol Boris Eikhenbaum yn 1922 bod cymeriad barddonol Anna yn gyfuniad o "butain a lleian", ac nid sarhad mo hynny. Un arall i ganu ei chlodydd hi oedd y bardd plant a beirniad Korney Chukovsky.[2]

Y cyfnod Stalinaidd

golygu

Dienyddwyd ei chyn-ŵr Nikolay Gumilyov yn 1921 ar gyhuddiad o fod yn rhan o ffug-gynllwyn Tagantsev, esgus a ddefnyddiwyd gan yr heddlu cudd i erlid a brawychu deallusion a ystyriwyd yn wrth-chwyldroadwyr. Yn sgil dienyddiad Gumilyov, bu'n rhaid i Anna ddioddef ugain mlynedd bron o dawelwch ym mywyd diwylliannol yr Undeb Sofietaidd. Dan lywodraeth Joseff Stalin, bu Anna yn derbyn bygythiadau yn ei herbyn gan yr awdurdodau, yn ogystal â dioddef diffyg bwyd a phrinderau economaidd eraill yr oes. Yr unig waith a gyhoeddwyd ganddi yn y 1930au oedd ei hastudiaethau o Aleksandr Pushkin.[2]

Cafodd ail ysgariad, oddi ar Vladimir Shileiko, yn 1928. Cafodd Anna garwriaeth hir â'r hanesydd celf Nikolay Punin (1888–1953), er na phriodasant. Arestiwyd ei mab Lev Gumilyov a'i chariad Nikolay Punin am wyredigaeth wleidyddol yn 1935. Cawsant eu rhyddhau cyn pen hir, ond arestiwyd Lev unwaith eto yn 1938 a chafodd ei ddanfon i'w Gulag am bum mlynedd. Dyma oes o ormes syfrdanol yn hanes yr Undeb Sofietaidd: yn 1934 roedd Anna yng nghwmni Osip Mandelstam pan gafodd ei arestio, a bu farw mewn gwersyll crynhoi yn 1938.[2]

Dychwelodd Anna i olwg y cyhoedd yn 1940 yn sgil cyhoeddi sawl cerdd ganddi yn y cylchgrawn llenyddol misol Zvezda. Yr un pryd, cyhoeddwyd blodeugerdd o'i gwaith dan y teitl Из шести книг (Iz shesti knig), ond cafodd holl gopïau'r llyfr hwnnw ei dynnu'n ôl o'r siopau llyfrau a'r llyfrgelloedd ymhen fawr o dro. Ym Medi 1941, ychydig misoedd wedi Cyrch Barbarossa, rhoddwyd caniatâd i Anna annerch menywod Leningrad (fel y ailenwid St Petersburg yn 1924) a'u hysbrydoli. Aeth Anna ei hun i Tashkent, Wsbecistan, i osgoi'r gwarchae ar Leningrad, a threuliodd gweddill y rhyfel yn darllen ei cherddi i filwyr yn yr ysbyty ac yn cyhoeddi barddoniaeth a ysbrydolwyd gan y brwydro. Cyhoeddodd gyfrol fechan o gerddi yn Tashkent yn 1943.[2]

Wedi diwedd y rhyfel, dychwelodd Anna i Leningrad a chyhoeddodd ragor o'i cherddi mewn cylchgronau a phapurau newydd lleol. Er iddi adennill rhywfaint o'i hamlygrwydd drwy gyfrwng darlleniadau cyhoeddus a'i chyfraniadau at gyfnodolion, parhaodd yr awdurdodau i amau ei gwaith hi. Yn 1946 ysgrifennodd gylch o gerddi nas cyhoeddwyd i ymdopi â'r rhwystrau ar ryddid ei mynegiant. Yn Awst 1946 condemniwyd ei gwaith gan Bwyllgor Ganolog y Blaid Gomiwnyddol am ei "erotigiaeth, cyfriniaeth, a difaterwch gwleidyddol". Dyfarnwyd ei barddoniaeth yn "estron i'r bobl Sofietaidd", a chafodd Anna ei galw'n "butain-leian", sarhad ar sail disgrifiad Eikhenbaum o'i champau llenyddol, a hynny gan Andrei Zhdanov, pennaeth propaganda'r Undeb Sofietaidd. Cafodd Anna ei diarddel o Undeb y Llenorion Sofietaidd, a chwalwyd argraffiadau o'i chasgliad diweddaraf a oedd ar fin ei gyhoeddi. Na ymddangosodd yr un gerdd ganddi am dair blynedd arall.[2]

Ailsefydlu

golygu

Yn 1950 cyhoeddwyd sawl mawlgan gan Anna, er clod i Stalin a'r drefn Sofietaidd, yn y cylchgrawn wythnosol Ogonyok a hynny dan y teitl Iz tsikla "Slava miru". Cymhelliad y bardd oedd i gymodi â'r awdurdodau ac i geisio sicrhau rhyddid ei fab, a gafodd ei arestio eto yn 1949 a'i alltudio i Siberia. Mae llais y cerddi hyn yn annodweddiadol o farddoniaeth Akhmatova, ac yn tystio iddi ysgrifennu'r rheiny mewn cyfyng gyngor ac nid o ysbrydoliaeth yr awen. Caiff y cerddi am Stalin eu hepgor o gasgliadau o weithiau Akhmatova a gyhoeddwyd yn yr Undeb Sofietaidd wedi ei marwolaeth.[2]

Yn y cyfnod 1935–40, cyfansoddodd Akhmatova gylch telynegol o'r enw (Rekviem), gorchest lenyddol er cof am yr holl bobloedd Sofietaidd a ddioddefasant dan frawychiaeth Stalin. Ni chyhoeddwyd y gwaith hwnnw yn yr Undeb Sofietaidd nes 1989. Yn y cyfnod 1940–62, gweithiodd Akhmatova ar ei gwaith hiraf, ac o bosib ei champwaith hi, (Poema bez geroya), na chyhoeddwyd yn yr Undeb Sofietaidd nes 1976. Cerdd gymhleth ydyw sydd yn cyfuno portreadau o fywyd bohemaidd St Petersburg yn nechrau'r 20g â thrychinebau'r chwyldro a'r cyfnod Stalinaidd.[2]

Yn sgil marwolaeth Stalin yn 1953, cychwynnodd y broses o ddad-Stalineiddio dan arweiniad Nikita Khrushchev. Yn yr hinsawdd wleidyddol newydd yn yr Undeb Sofietaidd, enillodd Anna glod am iddi fynegi'r gwir yn wyneb sensoriaeth.[1] Ailsefydlwyd ei henw a rhoddwyd caniatâd iddi gyhoeddi gyfrol fechan o farddoniaeth, Стихотворения (Stikhotvoreniya) yn 1958. Wedi hynny, cyhoeddwyd dau gasgliad arall yn ystod ei hoes: Стихотворения. 1909—1960 (Stikhotvoreniya. 1909–1960; 1961) a Бег времени (Beg vremeni; 1965). Yn ogystal â'i barddoniaeth wreiddiol, cyfieithodd Anna gerddi sawl bardd arall, gan gynnwys Victor Hugo, Rabindranath Tagore, Giacomo Leopardi, a beirdd o Armenia a Chorea. Ysgrifennodd hefyd gofiannau o Aleksandr Blok, Amedeo Modigliani, ac Osip Mandelstam.[2]

Diwedd ei hoes

golygu

Teithiodd Anna i Sisili yn 1964 i dderbyn Gwobr Etna-Taormina ac i Loegr yn 1965 i dderbyn doethuriaeth er anrhydedd iddi o Brifysgol Rhydychen. Bu farw ar 5 Mawrth 1966 yn Domodedovo, ger Moscfa. yn 76 oed.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Mary Ellen Snodgrass, "Akhmatova, Anna (1889–1966)" yn Encyclopedia of Feminist Literature (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), tt. 13–14.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 (Saesneg) Anna Akhmatova. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Hydref 2019.