Anhwylder yw acromegaledd, sy'n deillio o ormodedd mewn hormon tyfiant (GH) wedi i'r platiau twf gau. Mae'r symptomau cychwynnol fel arfer yn cynnwys tyfiant anarferol yn y dwylo a'r traed. Gellir hefyd weld ehangiad yn nhalcen yr wyneb, y geg, a'r trwyn. Ymhlith y symptomau eraill y mae poen yn y cymalau, croen yn tewhau, llais yn dyfnhau, cur pen, a phroblemau wrth weld. Gall gymhlethdodau hefyd arwain at fath dau glefyd y siwgr, diffyg anadl wrth gysgu, a phwysedd gwaed uchel.

Acromegaledd
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathhyperpituitarism, clefyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebacromicria Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fel arfer, achosir cwenomegali gan or-gynhyrchiant o'r hormon tyfiant yn y chwarren bitẅidol. Mewn mwy na 95% o unigolion, achosir y cynhyrchiad gormodol uchod gan diwmor diniwed, a elwir yn adenoma pitẅidol. Ni chaiff y cyflwr ei etifeddu. Yn anaml iawn achosir acromegaledd gan diwmorau yn rhannau eraill o'r corff. Gellir gwneud diagnosis wrth fesur tyfiant hormon ar ôl i'r claf yfed glwcos neu wrth fesur ffactor tyfiant tebyg i inswlin I yn y gwaed. Wedi'r diagnosis, trefnir delweddu meddygol o'r pitẅidol er mwyn chwilio am adenoma. Os cynhyrchir gormodedd o'r hormon tyfiant yn ystod plentyndod, arweinir at gawraeth.

Ymhlith yr opsiynau triniaethol y mae cynnal llawdriniaeth er mwyn dileu'r tiwmor, cynnig meddyginiaethau, yn ogystal â therapi ymbelydredd. Fel arfer, cynhelir llawdriniaeth, sef y dull mwyaf effeithiol pan fo'r tiwmor yn llai. Mewn achosion lle nad yw'r llawdriniaeth yn llwyddiannus, gellir cynnig meddyginiaethau o'r analog somatostatin neu o'r teip derbynnydd gwrthwynebol GH. Gwellhad graddol a geir yn achos therapi ymbelydredd i gymharu â llawdriniaeth neu feddyginiaeth. Heb driniaeth gellir disgwyl i'r unigolyn fyw ar gyfartaledd 10 mlynedd yn llai; fodd bynnag, os trinnir y cyflwr, ceir disgwyliad byw cyffredin.[1]

Mae Acromegali yn effeithio oddeutu 6 ym mhob 100,000 person. Mae'n fwyaf cyffredin ymysg pobl ganol oed. Effeithir ar ddynion a menywod fel ei gilydd. Cofnodwyd y disgrifiad meddygol cyntaf o'r anhwylder ym 1772 gan Nicolas Saucerotte.[2] Mae'r term yn hanu o'r iaith Roeg - ἄκρον akron sef "eithafiaeth" a μέγα mega a'i ystyr yw "mawr".

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ho, Ken (2011). Growth Hormone Related Diseases and Therapy: A Molecular and Physiological Perspective for the Clinician (yn Saesneg). Springer Science & Business Media. t. 400. ISBN 9781607613176. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Pearce, John M. S. (2003). Fragments of Neurological History (yn Saesneg). World Scientific. t. 501. ISBN 9781783261109. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)