Diabetes

(Ailgyfeiriad o Clefyd y siwgr)

Anhwyldeb metabolig yw diabetes, sy’n digwydd pan mae’r corff yn methu defnyddio’r siwgr sydd yn y gwaed. Heb ei reoli’n iawn, gall diabetes arwain at glefyd y galon, clefyd yr arennau, dallineb, a niwed i bellafon y corff a achoswyd gan gylchrediad wan o waed. Ar y llaw arall, o gael eu trin a’u cefnogi’n iawn, gall pobl â diabetes fyw bywydau hir a llawn iawn.

Diabetes
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd metabolaeth glwcos, clefyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwystype 2 diabetes, y clefyd melys teip 1 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hen enwau Cymraeg arno yw clefyd siwgr a'r clefyd melys ond nid yw'r rhain yn cael eu cymeradwyo heddiw am eu bod yn medru bod yn gamarweiniol.[1]

Mae tua 93,000 o bobl Cymru’n gwybod bod diabetes arnynt, ac mae’n debyg bod tua 40,000 o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr ond heb wybod hynny hyd yn hyn. Diabetes a’i gymhlethdodau sy’n gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru. Mae'r elusen Diabetes UK yn cynorthwyo pobl sydd â'r clefyd.

Yn 2007 collodd y Cymro pybyr a'r cyn-chwaraewr rygbi Ray Gravell ei goes oherwydd y clefyd.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.