Adam Shankman
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Los Angeles yn 1964
Mae Adam Michael Shankman (ganed 27 Tachwedd 1964) yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm o'r Unol Daleithiau. Mae ef hefyd yn actor, dawnsiwr ac yn feirniad ar gyfresi 3 & 4 o So You Think You Can Dance. Cyfarwyddodd A Walk to Remember, Bringing Down the House, The Pacifier, Cheaper by the Dozen 2 a Hairpsray. Mae ef hefyd wedi dawnsio mewn fideos ar gyfer Paula Abdul a Janet Jackson. Roedd Shankman hefyd wedi darparu'r coreograffeg ar gyfer un o deithiau'r Spice Girls.
Adam Shankman | |
---|---|
Ganwyd | Adam Michael Shankman 27 Tachwedd 1964 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, coreograffydd, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, actor, dawnsiwr |
Gwobr/au | American Choreography Awards |
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.