Adar Mân y Mynydd

(Ailgyfeiriad o Adar mân y mynydd (cân))

Cân werin draddodiadol yw Adar Mân y Mynydd.

Adar Mân y Mynydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Mae'r gân yn ymwneud â dyn sydd mewn cariad â merch o'r enw Gwen, sy'n byw ymhell oddi wrtho. Ceir ynddi elfennau o gariad, hiraeth a galar, a'r defnydd o adar fel negeswyr a symbolau serch. Casglwr y gân hon oedd John Morris a gasglodd dros ddeugain o ganeuon gwerin, fel rhan o'r gymdeithas 'Canorion'.

Mae'n gofyn i'r ehedydd, yr eos a holl adar bach y mynydd i hedfan ac ymweld â Gwen sydd wedi datblygu afiechyd. Maent i gyd yn hedfan i ffwrdd nes iddynt gyrraedd gwely Gwen lle maent yn esbonio eu bod yn gymrodyr sy'n cynrychioli'r un sy'n ei charu, sef y bardd, a'i fod am wybod a yw hi'n gwella neu beidio. Mae Gwen yn ei thro hefyd yn rhoi neges drist iddynt fynd yn ôl at ei chariad, ei bod yn marw:

O dwedwch wrtho'n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf, yn brudd
Â'n gymysg bridd a grafel.[1]

Y geiriau golygu

Yr eos a'r glân hedydd
Ac adar mân y mynydd,
A ei di'n gennad at liw'r haf
Sy'n glaf o glefyd newydd?

Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i'w danfon
I ddwyn i gof yr hwn a'ch câr,
Ond pâr o fenig gwynion.

Yr adar mân fe aethant
I'w siwrnai bell hedasant
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant.

Dywedai Gwen lliw'r ewyn
Och fi, pa beth yw'r deryn
Sydd yma'n tiwnio nawr mor braf
A minnau'n glaf ar derfyn?

Cenhadon ym gwnewch goelio
Oddi wrth y mwyn a'ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr ych
Ai mendio'n wych a'i peidio.

Dywedwch wrtho'n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf yn brudd
Â'n gymysg bridd a grafel.

Geirfa golygu

  • 'cennad' - negesydd
  • 'dwyn i gof' - cofio
  • 'hedasant' - a wnaeth hedfan
  • 'canasant' - a wnaeth ganu
  • 'ym' - ydym
  • 'hoedel' - hoedl, neu hyd bywyd
  • 'grafel' - gro mân


Cyfeiriadau golygu

  1. Meinir Wyn Edwards (gol.), 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), tud. 8
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato