Cerddoriaeth Cymru

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Bryn Terfel ym myd opera a grwpiau fel Manic Street Preachers a Catatonia ym myd roc.

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir nifer o gyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr at gerddororion crwydrol yn canu ar y delyn neu'r crwth. Roedd pibau'n offerynnau cyffredin hefyd. Roedd y datgeiniaid a rhai o'r beirdd yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant y delyn. Etifedd y traddodiad hwnnw yw Cerdd Dant heddiw. Yr Antiffonal Penpont, o'r 14g, yw'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth o Gymru.

Am ganrifoedd bu canu gwerin yn rhan annatod o fywyd y werin bobl. Erys nifer o geinciau ac alawon a gasglwyd yn y 18g a'r 19eg ar glawr, e.e. 'Dafydd y Garreg Wen'. Ond disodlwyd llawer o'r canu hyn mewn canlyniad i effaith y Diwygiad Methodistaidd. Yn eu lle ceid nifer o emynau gan bobl fel William Williams Pantycelyn a osodwyd ar emyn-donau poblogaidd fel 'Cwm Rhondda'. Dan ddylanwad Ieuan Gwyllt daeth cynnal Cymanfaoedd Canu yn boblogaidd iawn.

Yn ail hanner y 19g daeth corau meibion yn boblogaidd ac roedd y Gymanfa Ganu yn denu miloedd.

Cerddoriaeth glasurol golygu

Ym myd cerddoriaeth glasurol mae traddodiad Cymru yn dechrau gyda'r offerenau crefyddol Lladin a genid yn yr Oesoedd Canol. Mae'r wlad wedi cynhyrchu sawl cyfansoddwr adnabyddus fel Alun Hoddinott, a chantorion byd-enwog fel Bryn Terfel a Katherine Jenkins. Yn ogystal mae gan Gymru ei cherddorfa genedlaethol, Cerddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC, a chwmni opera o fri rhyngwladol, sef Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Cerddoriaeth boblogaidd golygu

 
Rhywun wedi dwyn fy nhrwyn gan Y Tebot Piws (1971)

Ceir cerddoriaeth boblogaidd o bob math yn y Gymraeg, a ddechreuodd gyda canu gwlad yn y 1960au ond a ymledodd i gynnwys canu roc a phop o ddiwedd y ddegawd honno ymlaen. Mae enwau mawr o'r Oes Aur yn cynnwys Meic Stevens, Geraint Jarman (a'r Cynganeddwyr), Bryn Fôn, Edward H. Dafis, Geraint Lovegreen, Y Tebot Piws a Bob Delyn a'r Ebillion.

Yn Saesneg cafwyd grwpiau fel Amen Corner ac yn fwy diweddar y Manic Street Preachers a'r Super Furry Animals (band sy'n canu yn y Gymraeg yn ogystal).

Mae bodolaeth Radio Cymru wedi bod yn bwysig iawn i alluogi cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa. Yn Saesneg mae Radio Wales wedi bod yn llwyfan bwysig hefyd. Yn ogystal mae S4C yn cynnig lle i gerddoriaeth Gymraeg, er iddo gael ei feirniadu gan rai bobl am fod yn geidwadol a "chanol y ffordd."

Cyfryngau a stiwdios golygu

Erbyn heddiw mae sawl cwmni recordio yng Nghymru. Y pwysicaf yw Cwmni Sain, a sefydlwyd gan Dafydd Iwan, un o gantorion mwyaf poblogaidd y wlad o hyd. Mae cwmnïau eraill yn cynnwys Fflach ac Ankst.

Mae gwyliau cerddorol wedi tyfu yn ddiweddar ac yn rhan annatod o'r diwylliant Cymreig. Maent yn cynnwys Gŵyl y Faenol, a drefnir gan Bryn Terfel ar Stad y Faenol ger Bangor, a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Gweler hefyd golygu