Adargi Melyn
Ci adar sy'n tarddu o'r Alban yw'r Adargi Melyn.[1] Datblygwyd yn y 19g i ddwyn adar yn ôl o'r dŵr. Mae'n boblogaidd heddiw fel anifail anwes teuluol a chi tywys i'r dall.[2]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci, Gun dog, Retriever |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Yr Alban |
Enw brodorol | Golden Retriever |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ganddo gôt drwchus sy'n hir ar ei wddf, cluniau, cynffon, a chefnau'r coesau ac o liw brown euraidd. Mae ganddo daldra o 55 i 61 cm (21.5 i 24 modfedd) ac yn pwyso 25 i 34 kg (55 i 75 o bwysau). Mae'n gi cyfeillgar ac addfwyn sy'n barod i weithio, yn gryf ac yn nofiwr da.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [retriever].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) golden retriever. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.