Y Deyrnas Unedig

gwladwriaeth sofran yn Ewrop
United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland
Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Baner y Deyrnas Unedig Arfbais y Deyrnas Unedig
Baner Arfbais
Arwyddair: Dieu et mon droit
(Arwyddair brenhinol; Ffrangeg: Duw a fy hawl)
Anthem: God Save The Queen
Lleoliad y Deyrnas Unedig
Prifddinas Llundain
Dinas fwyaf Llundain
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim; Saesneg yw'r de facto;

Mae gyda'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban statws cyfartal â'r Saesneg yng Nghymru a'r Alban yn ôl eu trefn.

Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenhines
 • Prif Weinidog
Elisabeth II
Boris Johnson
Ffurfio
- Undeb

1 Ionawr 1801
Esgyniad i'r UE1 Ionawr, 1973
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
244,820 km² (76ain)
1.34
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 2011
 - Dwysedd
 
64,000,000 (22ain)
63,181,775
255.6/km² (48fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1.833 biliwn (6fed)
$30,470 (18fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.939 (14fed) – uchel
Arian cyfred Punt Sterling (GBP)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
BST (UTC+1)
Côd ISO y wlad .uk 1
Côd ffôn +44
1 ond ISO 3166-1 (.gb) oes GB

Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.

HanesGolygu

Prif erthygl: Hanes y Deyrnas Unedig

Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10g. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr at bwrpasau deddfwriaethol trwy Ddeddfau Uno 1536. Gyda Deddf Uno 1707, cytunodd seneddau Lloegr a'r Alban i uno eu teyrnasoedd fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin er 1603). Ym 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y 19g mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad democratiaeth seneddol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd gwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'r Ymerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20g gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r Ewrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mai gwahaniaeth barn ynghylch cryfhau'r cysylltiad gyda'r gwrthwynebiad yn gryfach yn Lloegr. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad, Undeb Ewrop a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda phŵer gwaharddiad.

Gweler hefyd: Brenhinoedd a breninesau'r Deyrnas Unedig; Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon; Hanes Cymru; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Lloegr.

GwleidyddiaethGolygu

Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Frenhines ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines Elisabeth II yw pennaeth y wladwriaeth ac fe'i coronwyd ym 1953, wedi iddi esgyn i'r orsedd ym 1952. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremonïol, a'r Prif Weinidog sy'n rheoli'r wladwriaeth mewn gwirionedd.

Gwledydd, Rhanbarthau, Siroedd, ac ArdaloeddGolygu

 
Y Deyrnas Unedig yn Ewrop

Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol:

Mae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sirol, 9 Sir, a 3 Dinas. Yn ogystal cedwir siroedd 1974-1996 fel 'siroedd seremonïol' ond heb unrhyw swyddogaeth mewn llywodraeth leol.

Mae'r Alban yn cynnwys 32 Awdurdod Unedol. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir.

Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeistrefi.

Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler Gwladfa'r Goron. Ni chyfrifir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol.

Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 prif wledydd eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er bod y DU ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.

Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig.

DaearyddiaethGolygu

Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd Tafwys a Hafren yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger Pumlumon yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dover mae Twnnel Môr Udd yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Mae Cymru yn wlad fynyddig gan fwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, gydag uchder o 1,085 m uwch lefel y môr, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Pumlumon, Y Berwyn, Y Carneddau a'r Glyderau yn Eryri, a Bryniau Clwyd. I'r gogledd mae Ynys Môn. Mae'r prif afonydd yn cynnwys afon Hafren, afon Gwy, afon Teifi, afon Conwy ac afon Dyfrdwy. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin, Penfro, Aberystwyth, Dolgellau, Caernarfon, Bangor, Caergybi, Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, a Wrecsam.

Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gydag iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd.

Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd.

EconomiGolygu

Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni preifateiddio, ac fe gyfyngwyd ar dwf y Wladwriaeth Les. Mae amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig bancio, yswiriant, a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.

Gohiriodd llywodraeth Blair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system Ewro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnal refferendwm.

DemograffaethGolygu

Saesneg yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd llawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad.

DiwylliantGolygu

Mae'r Deyrnas Unedig yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheirianwyr enwog, er enghraifft James Watt, Charles Darwin, ac Alexander Fleming.

Mae ysgrifenwyr enwog o'r DU yn cynnwys y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Robert Burns, Thomas Hardy, Alfred Tennyson, Dylan Thomas a William Wordsworth.

Mae'r cyfansoddwyr Edward Elgar, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.

Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol, un o ddwy opera arweiniol y byd.

Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a rôl The Beatles, y Rolling Stones, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd, Catatonia, ac Oasis.

Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis John Constable, Joshua Reynolds, William Blake a J.M.W. Turner. yn yr 20g, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, Kyffin Williams a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin.

Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatraidd, ac mae gan Lundain lawer o theatrau, gan gynnwys y Theatr Genedlaethol Frenhinol.

Gwyliau Banc a Cyhoeddus
DyddiadEnw
1 IonawrDydd Calan
2 Ionawr(Yr Alban yn unig)
17 MawrthDydd Gŵyl Sant Padrig (Gogledd Iwerddon yn unig)
Y Dydd Gwener cyn Sul y PasgDydd Gwener y Groglith
Y Dydd Sul wedi'r lleuad llawn cyntaf ers cyhydnos y gwanwynSul y Pasg
Y diwrnod wedi Sul y PasgDydd Llun y Pasg
Dydd Llun cyntaf mis MaiGŵyl Banc Calan Mai
Dydd Llun olaf mis MaiGŵyl Banc y Gwanwyn
12 GorffennafBrwydr y Boyne - Orangemen's Day (Gogledd Iwerddon yn unig)
Dydd Llun diwethaf yn AwstGŵyl Banc yr Haf
25 RhagfyrDydd Nadolig
26 RhagfyrDydd Gŵyl San Steffan (nid yn Yr Alban)

Cysylltiadau allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am Y Deyrnas Unedig
yn Wiciadur.