Adrannau gweithredol ffederal yr Unol Daleithiau

Adrannau gweithredol ffederal yr Unol Daleithiau yw prif adrannau cangen weithredol llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau. Mae 15 o adrannau gweithredol ar hyn o bryd.

Derbyna penaethiaid yr adrannau gweithredol y teitl Ysgrifennydd eu hadrannau priodol, ac eithrio'r Twrnai Cyffredinol sef pennaeth yr Adran Gyfiawnder (a'r Postfeistr Cyffredinol a oedd yn bennaeth ar Adran y Swyddfa Bost tan 1971).

Penodir penaethiaid yr adrannau gweithredol gan yr Arlywydd ac maent yn cael dechrau ar eu gwaith wedi iddynt gael cadarnhad gan Senedd yr Unol Daleithiau. Maent yn gwasanaethu er pleser yr Arlywydd.

Adrannau gweithredol

golygu

Adrannau gweithredol presennol

golygu

Cynhwysa'r adrannau gweithredol presennol, yr Adran Wladol, Adran y Trysorlys, yr Adran Gyfiawnder, yr Adran Fewnol, yr Adran Amaeth, yr Adran Fasnach, yr Adran Lafur, yr Adran Amddiffyn, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol, yr Adran Dai a Datblygiad Trefol, yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran Ynni, yr Adran Addysg, yr Adran Faterion Cyn-filwyr ac Adran Ddiogelwch y Famwlad.

Cyn adrannau gweithredol

golygu

Cynhwysa'r cyn adrannau gweithredol, yr Adran Ryfel (1789-1947), Adran y Swyddfa Bost (1792-1971), yr Adran Fasnach a Llafur (1903-1913), Adran y Fyddin (1947-1949), Adran y Llynges (1798-1949), Adran y Lluoedd Awyr (1946-1949), yr Adran Iechyd, Addysg a Lles (1953-1979).