Arlywydd yr Unol Daleithiau
pennaeth gwladwriaeth a llywodraeth yr Unol Daleithiau
Mae Arlywydd Unol Daleithiau America yn ben gwladwriaeth Unol Daleithiau America. Yn ôl cyfansoddiad yr Unol Daleithiau (UDA) ef hefyd yw prifweithredwr y llywodraeth ffederal a chadbennaeth y lluoedd arfog.
Etholir yr Arlywydd a'r Is-Arlywydd gan y Coleg Etholiadol UDA pob pedair blynedd. Mae pob talaith yn anfon yr un nifer o etholwyr i'r coleg etholiadol ag sydd ganddynt o seneddwyr a chynrychiolwyr yng Nghyngres UDA. Mae'r etholwyr yn ymrwymo i bleidleisio yn ôl canlyniadau etholiad cyffredinol a gynhelir ym mhob talaith ar yr un diwrnod.
Y Tŷ Gwyn, Washington DC, swyddfa'r Arlywydd UDA
Bu o leiaf 8 Arlywydd o dras Cymreig gan gynnwys:
- John Adams – Ail Arlywydd (1735 – 1826)
- Thomas Jefferson – 3ydd Arlywydd (1743 – 1826)[1]
- James Madison – 4ydd Arlywydd (1751 – 1836)
- James Monroe – 5ed Arlywydd (1758-1831)
- John Quincy Adams – 6ed Arlywydd (1767 – 1848)
- William Henry Harrison – 9fed Arlywydd (1773 – 1841)
- Abraham Lincoln – 16ed Arlywydd (1809 – 1865)
- James A. Garfield – 20fed Arlywydd (1831 – 1881)
Rhestr Arlywyddion Unol Daleithiau AmericaGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ http://www.americanheritage.com/people/presidents/jefferson_thomas.shtml Archifwyd 2010-12-12 yn y Peiriant Wayback. Thomas Jefferson