Adwaith cildroadwy

Adwaith cildroadwy yw adwaith sy'n gweithio mewn dau gyfeiriad. Mae yna lawer o adweithiau sy'n mynd mewn un cyfeiriad yn unig; maent yn symud ymlaen gyda'r adweithyddion ar y chwith ac yn creu cynhyrchion ar y dde e.e.

Adwaith cildroadwy
Enghraifft o'r canlynolmath o gydbwysedd Edit this on Wikidata
Mathchemical equilibrium, steady state, adwaith cemegol Edit this on Wikidata
Adwaith cildroadwy

Ca + Cl2 → CaCl2

Y metel calsiwm a'r nwy clorin yw'r adweithyddion yn yr adwaith uchod. Y calsiwm clorid yw'r cynnyrch. Mae'r adwaith uchod yn mynd o'r dde i'r chwith yn unig. Mae'r adwaith yn parhau nes bydd yr adweithyddion yn darfod ac felly bydd yr holl galsiwm a'r clorin yn adweithio.

Ond mae'r rhan fwyaf o adweithiau yn gildroadwy, hynny yw, gall adweithiau cildroadwy fynd yn ôl ac ymlaen (o'r dde i'r chwith ac o’r chwith i'r dde) am byth e.e. proses Haber:

N2 + 3H22NH3

Ecwilibriwm Dynamig golygu

Mewn adwaith sydd yn gildroadwy mae'r blaen adwaith a'r ôl adwaith yn digwydd gyda'r un gyfradd. Yn yr adwaith cildroadwy uchod, mae'r amonia yn cael ei gyfnewid i nitrogen a hydrogen (sef yr ôl adwaith) ac ar yr un pryd mae'r nitrogen a hydrogen yn cael eu trawsnewid i amonia (y blaen adwaith). Pan mae cyfraddau'r ddau yn hafal, mae symiau'r tri sylwedd yn aros yn gyson. Gelwir cymysgeddau o sylwedd mewn adwaith cildroadwy lle mae symiau'r sylwedd yn aros yn gyson yn ecwilibriwm. Pam mae ôl adwaith a blaen adwaith yn digwydd gyda'r un gyfradd, maent yn cydbwyso a gelwir hyn yn ecwilibriwm dynamig.

Cysonyn yr ecwilibriwm golygu

Am yr ecwilibriwm

 

gellir mynegi cysonyn yr ecwilibriwm fel y ganlyn:

 

lle {A} yw actifedd sylwedd A, {B} actifedd B ag ati; fel arfer mae eu crynodiadau mewn mol dm−3.

Dydy newidiadau i grynodiad y sylweddau ddim yn newid cysonyn yr ecwilibriwm. Dim ond tymheredd (T) sy'n gwneud hyn felly fe fynegir cysonyn ar gyfer pob tymheredd ( yn ôl y berthynas ganlynol

 

lle ΔGo yw'r newid egni Gibbs ar grynodiad 1 mol dm−3. R yw'r cysonyn nwy cyffredinol.)