Agor y brif ddewislen

Elfen gemegol gyda'r symbol H a'r rhif atomig 1 yw hydrogen. Yr hen enw Cymraeg amdano oedd: ulai, awyr hylosg a gwyen. Hydrogen yw'r elfen ysgafnaf a mwyaf cyffredin yn y tabl cyfnodol; mae 75% o fater baryonaidd wedi'i wneud ohono, ond dylid cofio, wrth gwrs, y ceir mater arall: mater tywyll.[2] Ar dymheredd arferol y labordy, mae'n nwy di-liw, diarogl, anfetalaidd a fflamadwy iawn, ac fe'i ceir yn ffurf molecylau gyda'r fformiwla H2. Yr isotop mwyaf cyffredin ohono, fodd bynnag, yw protiwm (symbol 1H), sydd ag un proton a dim niwtron. Ar y Ddaear, mae i'w gael fel arfer fel moleciwlau fel dŵr, cyfansoddion organig ac organebau byw. Mae sêr yn cynnwys hydrogen gan amlaf, ond yn ffurf plasma.

- ← hydrogenheliwm
-

H

Li
Ymddangosiad
Nwy di-liw er fod iddo rhyw wawr ysgafn, biws pan fo'n blasma


Llinellau sbectral hydrogen
Nodweddion cyffredinol
Enw, symbol, rhif hydrogen, H, 1
Teulu'r elfennau anfetel
Grŵp, cyfnod, bloc 11, s
Rhif atomig 1.00794(7)
Patrwm yr Electronnau 1s1
Electronnau / cragen 1 (Image)
Nodweddion ffisegol
Lliw di-liw
Stâd nwy
Dwysedd (0 °C, 101.325 kPa)
0.08988 g/L
Dwysedd hylif / Ymdoddbwynt 0.07 (0.0763 solid)[1] g·cm−3
Dwysedd hylif / Ymdoddbwynt 0.07099 g·cm−3
Ymdoddbwynt 14.01 K, -259.14 °C, -434.45 °F
Berwbwynt 20.28 K, -252.87 °C, -423.17 °F
Pwynt triphlyg 13.8033 K (-259°C), 7.042 kPa
Pwynt critigol 32.97 K, 1.293 MPa
Enthalpi ymdoddiad

Gwres o ymdoddi

kJ·mol−1
Enthalpi anweddiad Cynhwysedd gwres (H2) 28.836 J·mol−1·K−1
Vapor pressure
P (Pa) 1 10 100 1 k 10 k 100 k
at T (K) 15 20
Nodweddion Atomig
cyflwr ocsidiad 1, -1
(ocsid amffoterig)
Electronegativity 2.20 (Graddfa Pauling)
egni ïoneiddiadau 1st: 1312.0 kJ·mol−1
Radiws cofalent 31±5 pm
Radiws Van der Waals 120 pm
Amrywiol
Strwythyr y crisal hecsagonal
Magnetic ordering diamagnetic
Dargludiad Thermal 0.1805 W·m−1·K−1
Cyflymder sain (gas, 27 °C) 1310 m·s−1
CAS registry number 1333-74-0
Most stable isotopes
Main article: Isotopes of hydrogen
iso NA half-life DM DE (MeV) DP
1H 99.985% 1H is stable with 0 neutron
2H 0.015% 2H is stable with 1 neutrons
3H trace 12.32 y β 0.01861 3He
· r

Daw'r enw o'r Groeg ὕδωρ (hudôr) (dŵr), a gennen (creawdwr).

Mae gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae mewn adweithiau asid-bâs gan fod cyfnewid protonau rhwng moleciwlau hydawdd yn rhan mor bwysig o'r adweithiau hynny. Mewn cyfansoddyn ïonig, mae hydrogen yn cymeryd gwefr negydd (h.y. anion), neu wefr bosydd (cation), a ddynodir gan y symbol H+.

HanesGolygu

Cynhyrchwyd nwy hydrogen mewn labordy am y tro cyntaf yn y 16eg ganrif, drwy gymysgu metalau ag asid. Rhwng 1766–81 Henry Cavendish oedd y cyntaf i ddatgan fod nwy hydrogen yn sylwedd unigryw, ar wahân,[3] a'i fod yn cynhyrchu dŵr pan fo'n llosgi, ac o hyn y tarddodd yr enw (y Crëwr Dŵr).

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. [1] tud 240; teitl: Inorganic chemistry gan Wiberg, Egon; Wiberg, Nils; Holleman, Arnold Frederick; isbn=0123526515
  2. Palmer, D. (13 Medi 1997). "Hydrogen yn y bydysawd". NASA. Cyrchwyd 5 Chwefror 2008.
  3. Presenter: Professor Jim Al-Khalili (21 Ionawr 2010). "Discovering the Elements". Chemistry: A Volatile History. 25:40 minutes in. BBC. BBC Four. http://www.bbc.co.uk/programmes/b00q2mk5.
Chwiliwch am hydrogen
yn Wiciadur.