Aemilianus
Roedd Aemilianus (207 neu 214 – 253) yn ymerawdwr Rhufain rhwng Gorffennaf a Hydref yn y flwyddyn 253.
Aemilianus | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Aemilius Aemilianus 207 Djerba |
Bu farw | 253 Spoleto |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig |
Priod | Cornelia Supera |
Ganed Aemilianus un ai yn 207 neu yn 214 yn ninas Djerba (talaith Affrica. Ychydig a wyddir am ei yrfa, ond mae'n sicr iddo fod yn gonswl cyn cael ei benodi'n rhaglaw talaith Moesia yn 252. Enw ei wraig oedd Gaia Cornelia Supera, ond ni wyddir a oedd ganddynt blant.
Llwyddiant mawr Aemilianus, a ddaeth a'r porffor ymerodrol iddo, oedd ei fuddugoliaeth tros y Gothiaid yng ngwanwyn 253. Ysbrydolodd hyn ei lengoedd i'w gyhoeddi'n ymerawdwr, a chychwynasant am Rufain i geisio diorseddu'r ymerawdwr Trebonianus Gallus. Cyn iddynt gyrraedd Rhufain, llofruddiwyd Gallus a'i fab Volusianus gan eu milwyr eu hunain, a daeth Aemilianus i mewn i'r ddinas fel ymerawdwr.
Er hynny, byr fu ei deyrnasiad, 88 diwrnod yn ôl rhai haneswyr. Roedd Gallus wedi gofyn cymorth gan lengoedd Afon Rhein, a phan glywsant hwy am farwolaeth Gallus cyhoeddasant eu cadfridog eu hunain, Valerian, yn ymerawdwr. Croesodd Valerian a'i fyddin yr Alpau yn Hydref 253, a'r tro hwn llofruddiwyd Aemilianus gan ei filwyr ei hun.
Ni wnaeth Aemilianus lawr o argraff fel ymerawdwr, Yn ôl Eutropius (fl. 4g): "Roedd Aemilianus o deulu o ddim pwysigrwydd, yr oedd ei deyrnasiad hyd yn oed yn llai pwysig ac yn y trydydd mis, lladdwyd ef."
Rhagflaenydd: Trebonianus Gallus |
Ymerawdwr Rhufain 253 |
Olynydd: Valerian I |