Valerian I
Publius Licinius Valerianus neu Valerian I (200–260) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 253 a 260.
Valerian I | |
---|---|
Ganwyd | 200 |
Bu farw | 260s Bishapur |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig |
Priod | Egnatia Mariniana, Cornelia Gallonia |
Plant | Gallienus, Licinius Valerianus |
Llinach | Valerian dynasty |
Yn wahanol i lawr o'r ymerodron yn ystod Argyfwng y Drydedd Ganrif yr oedd Valerian o deulu bonheddig a seneddol. Priododd ddwywaith, yr ail dro gyda Egnatia Mariniana, a chafodd ddau fab ganddi hi, Gallienus a Valerian II.
Yn 238 yr oedd yn princeps senatus, a gydag ef y bu Gordian I yn trafod i gael ei gydnabod yn ymerawdwr gan y Senedd. Yn 251, yn nheyrnasiad Decius, penodwyd ef yn censor. Yn ddiweddarach daeth yn rhaglaw taleithiau Noricum a Rhaetia. Gofynnodd yr ymerawdwr Trebonianus Gallus am ei gymorth yn wyneb gwrthryfel Aemilianus yn 253. Cychwynodd Valerian tua'r de, ond daeth y newyddion fod Gallus wedi ei ladd gan ei filwyr ei hun. Cydnabuwyd Aemilius yn ymerawdwr gan y Senedd, ond nid oedd Valerian yn fodlon derbyn hyn ac arweiniodd ei fyddin yn ei erbyn. Cyfarfu'r ddwy fyddin gerllaw Spoleto, a phan welodd milwyr Aemilius fod byddin Valerian yn gryfach, llofruddiwyd Aemilianus ganddynt. Derbyniodd y Senedd Valerian yn ymerawdwr ar unwaith.
Enwodd Valerian ei fab Galienus fel cyd-ymerawdwr. Ar ddechrau ei deyrnasiad yr oedd problemau yn Ewrop, yna bu trafferthion mwy yn y Dwyrain. Cipiodd y Persiaid dan Shapur I ddinas Antiochia a meddiannu Armenia. Tra'r oedd Galienus yn delio ag Ewrop, teithiodd Valerian tua'r dwyrain. Tua 257 llwyddodd Valerian i gael Antiochia a thalaith Syria yn ôl, ond y flwyddyn wedyn ymosododd y Gothiaid ar Asia Leiaf. Tua diwedd 259 ye oedd yr ymerawdwr yn Edessa, ond effeithiwyd ar ei fyddin gan glefyd. Rhywsut, efallai trwy frad pennaeth Gard y Praetoriwm, Macrinus, cymerwyd Valerian yn garcharor gan y Persiaid. Credir iddo gael ei drin yn greulon ac yna ei ddienyddio. Arddangoswyd ei groen ym mhrif deml y Persiaid. Llwyddodd Gallienus i gadw ei afael ar yr orsedd hyd 268. Wedi marwolaeth Valerian, meddiannwyd Syria a Cappadocia gan y Persiaid.
Rhagflaenydd: Aemilianus |
Ymerawdwr Rhufain 253 – 260 |
Olynydd: Gallienus |