Tyrbin stêm syml yr Henfyd yw aeolipile (Groeg "αιολουπυλη") neu agerbelen.[1] Bydd y ddyfais yn troelli pan fydd y cynhwysydd dŵr canolog yn cael ei gynhesu; cynhyrchir trorym gan jetiau stêm sy'n gadael y cynhwysydd.

Aeolipile
Mathmotor gwres, tyrbin rheiddiol Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1 g Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aeolipile ar waith

Fe'i gelwir yn "Peiriant Hero" oherwydd fe'i disgrifiwyd yn ysgrifenedig gan Hero o Alecsandria, mathemategydd Groeg-Aifftaidd a pheiriannydd. Disgrifiodd Hero'r ddyfais yn y ganrif 1af OC, ac mae llawer o ffynonellau yn rhoi'r clod iddo am ei ddyfais.[2] Fodd bynnag, y pensaer Rhufeinig Vitruvius oedd y cyntaf i ddisgrifio'r teclyn hwn yn ei lyfr De architectura (tua 30–20 CC).

Er mai'r aeolipil yw'r injan stêm gyntaf a gofnodwyd, nid oedd yn ffynhonnell pŵer ymarferol nac yn rhagflaenydd uniongyrchol y math o beiriant ager a ddyfeisiwyd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "aeolipile"
  2. Hero (1851), "Section 50 – The Steam Engine" (yn en), The Pneumatics of Hero of Alexandria, London: Taylor Walton and Maberly, Bibcode 1851phal.book.....W, http://www.history.rochester.edu/steam/hero/section50.html