Afon Acheron
Afon ym mherifferi Epirus yng ngogledd-orllewin Gwlad Groeg yw afon Acheron. Yn y cyfnod clasurol, eglurid yr enw fel region ὁ ἄχεα ῥέων (ho akhea rheōn, "afon gwae"), a chredid ei bod yn gangen o afon Styx, oedd yn ffurfio'r ffîn rhwng byd y byw a Hades. Mae'r llyn a elwir Acherousia, yr afon ac adfeilion y Necromanteion gerllaw Parga, gyferbyn ag ynys Corfu.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Uwch y môr | 11 metr |
Cyfesurynnau | 39.2361°N 20.4761°E, 39.472°N 20.6775°E, 39.2363°N 20.4757°E |
Aber | Môr Ionia |
Llednentydd | Cocytus |
Dalgylch | 763 cilometr sgwâr |
Hyd | 58 cilometr |
Credid fod cangen arall o'r Acheron yn dod i'r wyneb ger Penrhyn Acherusia (yn awr Eregli yn Nhwrci). Crdai Groegiaid yr Eidal fod Llyn Acherusia, y llyn yr oedd afon Acheron yn llifo iddo, yr un a Llyn Avernus. Yn ôl Platon yn ei Phaedo, Acheron oedd ail afon y byd, ar ôl Oceanus.