Afon 180 milltir o hyd yn Belîs, Canolbarth America, yw Afon Belîs. Mae'n casglu dŵr mwy na chwarter y wlad wrth ddilyn ymyl orllewinol Mynyddoedd Maya i aberu yn y Caribî ger Dinas Belîs. Enw arall arni yn lleol yw "Yr Hen Afon". Gellir ei mordwyo hyd at agos i'r ffin â Gwatemala. Hyd ddiwedd yr 20fed ganrif hi oedd prif lwybr masnach a chyfathrebu rhwng y tiroedd mewnol a'r arfordir.

Afon Belize
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Belîs Belîs
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.17841°N 89.08016°W, 17.53456°N 88.23664°W Edit this on Wikidata
TarddiadMaya Mountains Edit this on Wikidata
AberGulf of Honduras Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Macal, Afon Mopan Edit this on Wikidata
Dalgylch5,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd290 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae hi'n cychwyn lle mae Afon Mopan ac Afon Macal yn cyfuno ger San Ignacio, Belîs. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n llifo trwy goedwigoedd trofannol ei dyffryn. Mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer dŵr yfed i drigolion yr ardal ond mae llygredd gan gemegon amaethyddol ac effaith dadgoedwigo, yn bennaf mewn canlyniad i amaethyddiaeth sleisio a llosgi, yn broblem fawr heddiw.