Gwatemala
Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gwatemala neu'n swyddogol: Gweriniaeth Gwatamala neu República de Guatemala) (/ɣwate'mala/). Fe'i lleolir rhwng Mecsico (i'r gogledd-orllewin), y Cefnfor Tawel (i'r de-orllewin), Belîs a'r Caribi i'r gogledd-ddwyrain, a Hondwras ac El Salfador i'r de-ddwyrain. Gyda phoblogaeth o dros 16 miliwn o bobl, mae'n un o wledydd mwyaf Canolbarth Aberica. Y Brifddinas yw Dinas Gwatemala, neu yn Sbaeneg: Nueva Guatemala de la Asunción.
República de Guatemala | |
Arwyddair | Tyfwch yn Rhydd a Ffrwythlon |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad, Gweriniaeth fanana |
Prifddinas | Dinas Gwatemala |
Poblogaeth | 17,263,239 |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of Guatemala |
Pennaeth llywodraeth | Bernardo Arévalo de León |
Cylchfa amser | UTC−06:00, America/Guatemala |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, America Ganol, Canolbarth America, America Sbaenig |
Arwynebedd | 108,889 ±1 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Môr y Caribî, Gulf of Honduras |
Yn ffinio gyda | Belîs, El Salfador, Hondwras, Mecsico |
Cyfesurynnau | 15.5°N 90.25°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cyngor y Gweinidogion |
Corff deddfwriaethol | Cynghrair Gwatemala |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gwatemala |
Pennaeth y wladwriaeth | Bernardo Arévalo de León |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gwatemala |
Pennaeth y Llywodraeth | Bernardo Arévalo de León |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $86,053 million, $95,003 million |
Arian | Quetzal Gwatemala |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.211 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.627 |
Hanes
golyguDiwylliant Mayan
golyguBu'r Maya yma am dros 1,000 o flynyddoedd, gyda'u tiriogaeth yn ymestyn dros Mesoamerica. Prif nodweddion y diwylliant Mayan oedd seryddiaeth, mathemateg a phensaernïaeth. Yn 16g, gorchfygwyd y trigolion gan Ymerodraeth Sbaen.
Daeth y wlad yn annibynnol oddi wrth Sbaen ar 15 Medi, 1821, ond cafwyd cyfnodau cythryblus yn dilyn hynny, gyda sawl unben yn ceisio rheoli'r wlad, o dan oruchwyliaeth y United Fruit Company (a Llywodraeth yr UDA), fel un o'u banana republics.
Gwrthdaro arfog
golyguYn 1944 cafwyd coup gan y fyddin, a dygwyd yr awenau o ddwylo'r unben Jorge Ubico; eu nod oedd democratiaeth ond parhaodd y rhyfel cartref am dros ddegawd. Yn 1954, daeth i ben pan gosodwyd unben a gefnogwyd gan UDA yn arweinydd y wlad. Ymfudodd llawer o'r teuluoedd brodorol i Fecsico a'r Unol Daleithiau.[1]
Y presennol
golyguYn 2015, cafwyd llawer o wrthdystio sifil yn erbyn llywodraeth Otto Perez Molina.
Y boblogaeth
golyguMae 45% o'r boblogaeth yn Mestizos a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys disgynyddion Ewropeaidd: Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg, Sgandinafia ac eraill. Llythrennedd: 75%. Tlodi: 55%. Boblogaeth drefol: 46%. Poblogaeth Benyw: 56%.
Crefydd:
- Catholig: 59%
- Protestannaidd (Lutheraidd, Anglicanaidd, Pentecostaidd, ac ati): 40%
- credoau Mayan: 1%
Economi
golyguCoffi, cardamom, bananas, siwgr a tacabo yw'r prif gynnyrch allforio. Gyda GDP o dros 6,000 o ddoleri.
Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Gwatemala
- llenyddiaeth: Miguel Angel Asturias.
Dinas Gwatemala
golyguSbaeneg: La Nueva Guatemala de la Asunción. Mae'n brifddinas fwyaf poblog a modern yng nghanolbarth America, gyda tua 2.5 miliwn o drigolion. Yn 1976, dioddefodd y ddinas ddaeargryn a'i dinistriodd bron yn gyfan gwbl. Fe'i sefydlwyd yn 1776, Santiago de los Caballeros (Antigua Guatemala) oedd y brifddinas hynafol a gafodd ei dinistrio yn y ddaeargryn yn 1973.
Ffynonellau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Blakeley, Ruth (2009). State Terrorism and Neoliberalism: The North in the South. Routledge. t. 92. ISBN 0415686172.CS1 maint: ref=harv (link)