Afon Cayenne
Afon yn Guyane, De America, yw Afon Cayenne. Ei hyd yw 50 km. Mae'n cael ei ffurfio gan gymer yr afonydd Cascades a Tonnégrande, ac mae'n llifo i Gefnfor Iwerydd ger Cayenne, prifddinas Guyane, gan ffurfio aber sylweddol tua 2 km o hyd.
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Guyane ![]() |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Cyfesurynnau | 4.9142°N 52.3494°W, 4.6989°N 52.5192°W, 4.923°N 52.3489°W ![]() |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Llednentydd | Rivière de Montsinéry ![]() |
Hyd | 43.7 cilometr ![]() |
![]() | |
- Erthygl am yr afon yw hon. Gweler hefyd Cayenne (gwahaniaethu).
Ceir sawl cyfeiriad at yr afon yn y llyfr a ffilm Papillon gan Henri Charrière.