Afon Connecticut
Afon fwyaf a hiraf Lloegr Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Afon Connecticut. Mae'n llifo i'r de o Lynnoedd Connecticut yn New Hampshire ac yn dynodi'r ffin rhwng New Hampshire a Vermont. Mae'r afon yna'n llifo trwy Pioneer Valley yng ngorllewin Massachusetts ac heibio Springfield, y ddinas fwyaf poblog ar lan yr afon. Chwe km i'r de o Springfield, mae'r afon yn cwrdd â thalaith Connecticut gyda'i haber yn Old Saybrook ac Old Lyme gan lifo i Long Island Sound.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Connecticut, Massachusetts, Vermont, New Hampshire |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 6,602.8 ha |
Cyfesurynnau | 45.2375°N 71.2°W, 41.2722°N 72.3331°W |
Aber | Swnt Long Island |
Llednentydd | Afon Chicopee, Afon White, Afon Millers, Afon Farmington, Afon Ottauquechee, Afon Westfield, Afon Ammonoosuc, Afon Ashuelot, Afon Black, Afon Deerfield, Afon Falls, Halls Stream, Afon Passumpsic, Afon Waits, Afon West, Afon Manhan, Afon Nulhegan, Afon Upper Ammonoosuc, Afon Mohawk |
Dalgylch | 29,137 cilometr sgwâr |
Hyd | 660 cilometr |
Arllwysiad | 521 metr ciwbic yr eiliad |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Mae 16 argae ar Afon Connecticut, a dros mil ohonynt ar ei lednentydd.[1]
Crewyd Gwarchodfa Genedlaethol Pysgod a Bywyd Gwyllt Silvio O Conte – gyda maint o 36,000 o aceri - ym 1997 i warchod dalgylch cyfan yr afon. [2]
Mae’r enw ‘Connecticut’ yn tarddu o’r gair Pequot ‘quinetucket’, sy’n golygu ‘afon lanwol hir’ [3]