Afon Cywarch

afon yng Nghwynedd

Afon yn ne Gwynedd, Cymru, yw Afon Cywarch. Mae'n un o isafonydd Afon Dyfi. Mae ganddi hyd tua 4.5 milltir.

Afon Cywarch
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.742224°N 3.690757°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir darddleoedd Afon Cywarch ar lethrau uchel hyd at 690 metr i fyny rhwng Gwaun y Llwyni a Dyrysgol, i'r de o Aran Fawddwy ym Meirionnydd. Mae sawl ffrwd yn llifo o'r llethrau i gyfeiriad y de-orllewin ac yn cyfuno ym mlaen Hengwm i ffurfio'r afon. Llifa i Flaencywarch lle mae'n troi i gyfeiriad y de am weddill ei gwrs gan lifo i lawr Cwm Cywarch i lifo i Afon Dyfi yn Aber Cywarch, tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Dinas Mawddwy.[1]

Mae'r afon gyfan o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.