Aran Fawddwy
Mae Aran Fawddwy yn fynydd yn ne Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 905 metr |
Cyfesurynnau | 52.78702°N 3.68786°W |
Cod OS | SH8627222387 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 670 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Enw
golyguDaw'r enw o gwmwd Mawddwy, oedd yn cynnwys y wlad o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi.
Uchder
golyguGyda uchder o 905 medr, Aran Fawddwy yw mynydd uchaf Cymru ac Ynys Prydain i'r de o'r Wyddfa. Aran Fawddwy yw'r copa uchaf ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Benllyn sydd fymryn yn is, ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn; cyfeiriad grid SH862223. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 235 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 905m (2969tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Ionawr 2004.
Daearyddiaeth
golyguY pentrefi agosaf i'r mynydd yw Dinas Mawddwy i'r de, Llanymawddwy i'r de-ddwyrain, Rhydymain i'r gorllewin a Llanuwchllyn tua'r gogledd. Ar lechweddau dwyreiniol Aran Fawddwy mae llyn bychan Creiglyn Dyfi, lle mae Afon Dyfi yn tarddu.
Llwybrau
golyguGellir dringo'r mynydd o'r de o Gwm Cywarch, sy'n rhedeg tua'r gogledd o Ddinas Mawddwy. Ffordd arall o gyrraedd y copa yw dringo Aran Benllyn o Lanuwchllyn, ac yna dilyn y grib dros dir corslyd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback