Afon Doethïe

afon sy'n tarddu ger Tregaron
(Ailgyfeiriad o Afon Doethïe Fawr)

Afon yng Ngheredigion sy'n llifo i mewn i Afon Tywi yw Afon Doethïe.

Afon Doethïe
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.138997°N 3.801685°W Edit this on Wikidata
Map
Rhan uchaf Afon Doethïe

Tardda'r nentydd sy'n ffurfio'r afon ar yr ucheldir i'r dwyrain o dref Tregaron, o gwmpas Llyn Berwyn a choedwig Cwm Berwyn. Ffurfir Afon Doethie Fawr yma, ac wedi llifo tua'r de am ychydig, mae Afon Doethie Fach yn ymuno â hi. Llifa ymlaen tua de, a ger Troed Rhiw Cymmer, mae afon Pysgotwr-fawr yn ymuno â hi. Ychydig ymhellach tua'r de, mae'n ymuno ag Afon Tywi ger Ystradffin.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.