Tref fechan a chymuned yng Ngheredigion yw Tregaron.[1] Mae ganddi 1185 o drigolion, a 68% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Tregaron
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2196°N 3.9352°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000401 Edit this on Wikidata
Cod OSSN679597 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Gerllaw y dref ceir Cors Caron.

Hanes golygu

 
Tregaron o Ben-pica, tua 1885.

Daeth Tregaron yn dref ym 1292. Mae twf y dref wedi dibynnu ar leoliad yr ardal yn Nyffryn Teifi. Daeth yn dref farchnad i’r cymunedau amaethyddol a oedd wedi eu gwasgaru ar hyd y wlad tua’r De, a’r tirfeddiannwyr cyfoethog oedd a ffermydd mawr yn yr ucheldir tua’r dwyrain, cartref i lawer o ddefaid a phrin bobl. Tua’r Gogledd roedd Cors Caron, tir ffrwythlon pan fyddai wedi ei ddraenio, tua’r Gorllewin mae ardal fryniog a ffermwyr yn piau ffermydd bach o ond rhai erwau. Daw’r bobl yma i Dregaron i’r farchnad wythnosol a’r ffair flynyddol, Ffair Garon, lle gwerthwyd ieir, moch, gwartheg a cheffylau. Cynhelir ffeiriau defaid ym Mai a Mehefin, a dwy ffair arall yn Nhachwedd. Roedd nifer fawr o dafarndai yn y dref a fyddai’n darparu ar gyfer yr holl bobl a ddaw o’r wlad yn ystod y digwyddiadau hyn.

 
Dadorchuddio cofeb Henry Richard yn 1885. Ffotograff gan John Thomas.

Yng nghanol y 18g, cadwai Matthew Evans dafarn yn y dref. Roedd ganddo ddau fab ac un merch, lladron adnabyddus a adnabyddwyd fel Plant Mat. Buont yn byw mewn ogof yn ymyl Pontarfynach am sawl mlynedd. Roedd yn anodd dal y tri am i fynediad i’r ogof fod yn rhy gul. Wedi sawl mlynedd o lwyddiant, fe gyflawnodd y tri lofruddiad ac felly fe’u dedfrydwyd i farwolaeth ac fe’u lladdwyd.

Roedd Tregaron yn brif fan cwrdd i borthmyn a fyddai, cyn sefydliad cludiant trennau, yn cymryd niferoedd mawr o wartheg, defaid ac hyd yn oed gwyddau cannoedd o filltiroedd i farchnadoedd yn Ne-Ddwyrain Lloegr. Roedd llawer o ddynion Tregaron yn gwneud hyn ac yn gwneud llawer o arian wrth wneud. Roeddent yn actio fel dynion post answyddogol neu negeswyr, ac roedd llawer yn medru osgoi y tollbyrth.

Roedd sawl melin wlan a redwyd gan ddwr i'w cael yn Nhregaron, ac roedd yn ganolbwynt i wneuthuriad sannau. Roedd dynion, menywod a phlant yn gweu sannau yn eu cartrefi ac yn eu gwerthu yn y farchnad, i ddelwyr a fyddai'n eu gwerthu ymlaen yng Nghymoedd De Cymru.


Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022.[2]

Enwogion golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tregaron (pob oed) (1,213)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tregaron) (785)
  
66.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tregaron) (812)
  
66.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Tregaron) (242)
  
42.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
  2. "Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 - Cyngor Sir Ceredigion". www.ceredigion.gov.uk. Cyrchwyd 2022-08-17.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]