Afon Doethïe
afon sy'n tarddu ger Tregaron
(Ailgyfeiriad o Afon Doethie)
Afon yng Ngheredigion sy'n llifo i mewn i Afon Tywi yw Afon Doethïe.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.138997°N 3.801685°W |
Tardda'r nentydd sy'n ffurfio'r afon ar yr ucheldir i'r dwyrain o dref Tregaron, o gwmpas Llyn Berwyn a choedwig Cwm Berwyn. Ffurfir Afon Doethie Fawr yma, ac wedi llifo tua'r de am ychydig, mae Afon Doethie Fach yn ymuno â hi. Llifa ymlaen tua de, a ger Troed Rhiw Cymmer, mae afon Pysgotwr-fawr yn ymuno â hi. Ychydig ymhellach tua'r de, mae'n ymuno ag Afon Tywi ger Ystradffin.