Afon Dulas (Rhos)
afon ym Mwrdeisdref Sirol Conwy
Afon yn ardal Rhos (bwrdeisdref sirol Conwy) yng ngogledd Cymru yw Afon Dulas. Ei hyd yw tua tuag 8 milltir.
Afon Dulas ger ei haber ar gwr Llanddulas | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.258276°N 3.656175°W |
- Am yr afon o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Afon Dulas (Ceredigion). Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).
Gorwedd tarddle'r afon yn y bryniau tua 2 filltir i'r gorllewin o Eglwysbach (ond yr ochr arall i'r bryn o'r pentref hwnnw). Mae'n llifo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain trwy gymuned Dawn ac mae ffrwd arall yn ymuno â hi o'r de cyn cyrraedd pentref bychan Dolwen. O Ddolwen ymlaen mae'r afon yn dechrau disgyn i gyfeiriad y môr ac yn troi i gyfeiriad y gogledd. Mae hi'n llifo heibio i bentref bychan Rhyd y Foel wrth droed Pen y Corddyn ac ymlaen trwy gwm cul dan gysgod bryn Cefn yr Ogof i gyrraedd Llanddulas, a enwir ar ei hôl. Hanner milltir i'r gogledd o Landdulas mae'n aberu ym Môr Iwerddon.