Afon IJssel
Afon yn yr Iseldiroedd yw Afon IJssel. Mae'n un o ganghennau Afon Rhein, sy'n ymrannu yn dair cangen fawr yn fuan ar ôl croesi'r ffîn rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd. Y ddwy gangen arall yw'r Nederrijn ac Afon Waal.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Overijssel, Gelderland |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 52.5828°N 5.84°E, 51.9512°N 5.9524°E, 52.5878°N 5.832°E |
Aber | Ketelmeer |
Llednentydd | Oude IJssel, Berkel, Schipbeek, Twentekanaal |
Dalgylch | 4,270 cilometr sgwâr |
Hyd | 123 cilometr |
Dechreua Afon IJssel ger Westervoort, i'r dwyrain o ddinas Arnhem, ac mae'n llifo trwy daleithiau Gelderland ac Overijssel cyn llifo i mewn i'r IJsselmeer. Llyn yw hwn yn awr, ond cyn adeiladu'r Afsluitdijk roedd yn rhan o'r môr a elwid y Zuiderzee.
Y prif ddinasoedd ar yr IJssel yw Zutphen, Deventer a Kampen, gyda Zwolle hefyd gerllaw.