Gelderland
Talaith yn nwyrain yr Iseldiroedd yw Gelderland. Hi yw'r fwyaf o daleithiau'r Iseldiroedd o ran arwynebedd. Yn y gogledd-ddwyrain mae'n ffinio ar dalaith Overijssel, yn y dwyrain ar dalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen, yn y de ar Limburg a Noord-Brabant, yn y de-orllewin ar Zuid-Holland ac yn y gorllewin ar Utrecht. Yn y gogledd-orllewin mae'r Veluwemeer, gyda thalaith Flevoland yr ochr draw. Prifddinas y dalaith yw Arnhem.
![]() | |
![]() | |
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Guelders, Geldern ![]() |
Prifddinas | Arnhem ![]() |
Poblogaeth | 2,019,692 ![]() |
Anthem | Ons Gelderland ![]() |
Pennaeth llywodraeth | John Berends ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,136.51 ±0.01 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Flevoland, Overijssel, Nordrhein-Westfalen, Noord-Brabant, Limburg, Utrecht, Zuid-Holland ![]() |
Cyfesurynnau | 52.083°N 5.917°E ![]() |
NL-GE ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's Commissioner of Gelderland ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | John Berends ![]() |
![]() | |

Dinas fwyaf y dalaith yw Nijmegen ac yna Apeldoorn ac Arnhem. Llifa Afon Rhein a'i changhennau, y Waal a'r IJssel trwy'r dalaith, tra mae Afon Maas yn ffurfio'r ffîn â Noord-Brabant.
Roedd poblogaeth y dalaith yn 2005 yn 1,970,865.
![]() |
Taleithiau'r Iseldiroedd |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |