Afon Inn
Afon yng nghanolbarth Ewrop yw afon Inn (Lladin: Aenus, Groeg: Ainos, Reto-Romaneg: En). Mae'n 517 km o hyd, ac yn llifo trwy'r Swistir, Awstria a'r Almaen cyn llifo i mewn i afon Donaw.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Canton y Grisons, Tirol, Bafaria, Awstria Uchaf |
Gwlad | Y Swistir, Awstria, yr Almaen |
Cyfesurynnau | 46.4139°N 9.6667°E, 48.5736°N 13.4781°E |
Tarddiad | Lunghinsee |
Aber | Afon Donaw |
Llednentydd | Afon Salzach, Alz, Sanna, Mangfall, Attel, Isen, Rott, Ötztaler Ache, Melach, Sill, Ziller, Murn, Weißache, Kaiserbach, Vomperbach, Kieferbach, Brandenberger Ache, Weißenbach, Wattenbach, Faggenbach, Brixentaler Ache, Höttinger Bach, Tuffbach, Clemgia, Flaz, Enknach, Schlossbach, Geroldsbach, Fallbach, Gurtenbach, Lohbach, Hartbach, Weerbach, Mühlauer Bach, Sims, Wörgler Bach, Innkanal, Q1664369, Q1711937, Ach, Lanser Bach, Mattig, Q1948590, Pram, Schergenbach, Weiherburgbach, Voldertalbach, Mörnbach, Tasnan, Uina, Vallember, Axamer Bach, Spöl, Q759216, Q851609, Pitze, Antiesen, Gurglbach, Q116984809, Q116996901, Mühltalbach |
Dalgylch | 25,700 cilometr sgwâr |
Hyd | 517 cilometr |
Arllwysiad | 740 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Sils, Llyn Silvaplana, Lej da Champfèr, Lake St. Moritz |
Ceir tarddiad yr Inn 2645 medr uwch lefel y môr ym Mwlch Maloja yng nghanton Graubünden yn y Swistir. Mae'n llfo trwy'r Tirol yn Awstria, lle mae'n rhoi ei henw i brifddinas y dalaith, Innsbruck. Ger Kufstein mae'n gadael Awstria ac yn llifo i dalaith Bafaria yn yr Almaen. Yr afon yw'r ffin rhwng yr Almaen ac Awstria yn yr ardal yma, Mae'n uno ag afon Donaw yn Passau.
Dinasoedd a threfi ar afon Inn
golygu- Y Swistir: Saint-Moritz
- Awstria: Landeck, Imst, Innsbruck, Hall in Tirol, Schwaz, Rattenberg, Wörgl, Kufstein, Braunau am Inn, Schärding
- Yr Almaen: Rosenheim, Wasserburg am Inn, Mühldorf am Inn, Neuötting, Marktl am Inn, Simbach am Inn, Passau