Afon Itz
Afon yn rhan ddeheuol yr Almaen sy'n llifo i mewn i afon Main yw afon Itz. Mae tua 80 km o hyd.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bafaria |
Gwlad | yr Almaen |
Uwch y môr | 238 metr |
Cyfesurynnau | 50.4465°N 10.9918°E, 49.9831°N 10.8681°E |
Aber | Afon Main |
Llednentydd | Alster, Rodach, Röthen, Effelder, Lauter, Krebsbach, Füllbach, Q24700881, Grümpen |
Dalgylch | 1,029 cilometr sgwâr |
Hyd | 80 cilometr |
Llynnoedd | Froschgrundsee |
Mae'n tarddu yn Fforest Thuringia gerllaw Sachsenbrunn yn nhalaith Thuringia, ac yn llifo tua'r de trwy Bachfeld a Schalkau i groesi i dalaith Bafaria. Llifa trwy gronfa ddŵr y Froschgrundsee, yna trwy drefi Dörfles-Esbach, Coburg a Großheirath. I'r gogledd o Itzgrund mae afon Rodach yn ymuno â hi. Llifa twy Rattelsdorf i ymuno ag afon Main ger Baunach.